Wales

 

Download the Elections and Referendum Booklet

 

Ddydd Iau, 5 Mai 2011, bydd:

  • etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
  • refferendwm ledled y DU ar y system bleidleisio a ddefnyddir gennych i ethol ASau i Dyˆ’r Cyffredin

 

Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau i lunio deddfau ar gyfer Cymru mewn ystod o feysydd gan gynnwys amaethyddiaeth, addysg, yr amgylchedd, iechyd a thai.

Mae 60 o Aelodau Cynulliad (ACau) etholedig. Mae 40 yn aelodau etholaethol, sy’n golygu eu bod yn cynrychioli un o etholaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r 20 sy’n weddill yn aelodau rhanbarthol, sy’n golygu eu bod yn cynrychioli un o’r pum rhanbarth etholiadol yng Nghymru. Mae pob rhanbarth etholiadol yn cynnwys nifer o etholaethau.

Os ydych yn byw yng Nghymru, cewch eich cynrychioli gan bum AC. Mae un yn cynrychioli eich etholaeth Cynulliad a’r pedwar arall yn cynrychioli eich rhanbarth.

Am ragor o wybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i http://www.cynulliadcymru.org/.

 

Sut ydw i’n pleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

 

Byddwch yn derbyn dau bapur pleidleisio, fel y rhai y dangosir isod Bydd papur pleidleisio ar gyfer ethol eich aelod etholaethol a phapur pleidleisio ar gyfer ethol eich aelodau rhanbarthol.

Defnyddiwch y papur pleidleisio hwn i bleidleisio dros ymgeisydd i gynrychioli eich etholaeth. I bleidleisio, rhowch groes (X) yn y blwch gyferbyn ag enw un ymgeisydd. Bydd yr ymgeisydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn ennill.

 

Constituency Member

 

Defnyddiwch y papur pleidleisio hwn i bleidleisio dros blaid neu ymgeisydd unigol i gynrychioli eich rhanbarth. I bleidleisio, rhowch groes (X) yn y blwch gyferbyn ag enw un blaid neu ymgeisydd unigol. Ym mhob rhanbarth, bydd pleidiau ac ymgeiswyr unigol yn ennill seddi yn seiliedig ar:

  • nifer y pleidleisiau a gânt yn y bleidlais ranbarthol hon, a
  • nifer y seddi etholaethol y bydd pleidiau’n eu hennill yn y rhanbarth

 

Party or Individual Candidate

 

Darganfyddwch sut fydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif yma yng Nghymru

Darganfyddwch fwy am y refferendwm ar y system bleidleisio a ddefnyddir i etholau ASau yma

Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r refferendwm yw 14 Ebrill.

Cofrestrwch i bleidleisio yma

Ffyrdd o bleidleisio

Rhannwch y dudalen hon

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* Wrth ddewis "Ewch", rydych yn derbyn ein telerau ac amodau

Gwybodaeth etholiadol

Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i gynnal etholiadau yn eich ardal chi.

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod