Hygyrchedd pleidleisio

Mae gan bawb yr un hawliau i gofrestru a phleidleisio er gwaethaf unrhyw anabledd.  Yn unol â’r gyfraith, mae rhaid i orsafoedd pleidleisio fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn, ac mae rhaid iddynt ddarparu copïau o bapurau pleidleisio mewn print bras, a darparu cymhorthion pleidleisio i bobl sydd â nam gweledol.

Isod, mae atebion ar gael i gwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch hygyrchedd pleidleisio.

  • Pa ddarpariaeth sydd ar gael mewn etholiadau i bobl gydag anableddau?

    Mae rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio gyda’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a chyfreithiau eraill, i wneud gorsafoedd pleidleisio’n fwy hygyrch i bobl gydag anableddau.

  • Pa ddarpariaeth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio i bleidleiswyr dall?

    Mae templedi pleidleisio cyffyrddol a fersiynau print bras o’r papurau pleidleisio ar gael yn yr holl orsafoedd pleidleisio.  Gallwch chi fynd â chyfaill gyda chi i’ch helpu chi, neu gallwch chi ofyn i'r swyddog llywyddu yn yr orsaf bleidleisio am gymorth.  Neu, gallwch chi wneud cais am bleidlais drwy’r post.  Cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol am fwy o fanylion - rhowch eich côd post yn y safle yma i ddod o hyd i’w manylion cyswllt.

  • Pa ddarpariaeth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg?

    Dim ond mewn Saesneg yn unig mae’r deunyddiau pleidleisio ar gael - dyna’r gyfraith.  Fodd bynnag, efallai bod nodiadau cyfarwyddyd ar gael mewn ieithoedd eraill. Cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol am fwy o fanylion - rhowch eich côd post yn y safle yma i ddod o hyd i’w manylion cyswllt.

  • Pa ddarpariaeth sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio i gadeiriau olwyn?

    Mae rhaid i orsafoedd pleidleisio fod yn hygyrch i gadeiriau olwyn - dyna’r gyfraith.  Fodd bynnag, mae pob gorsaf bleidleisio’n wahanol.  Cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol i gael manylion ynghylch hygyrchedd yn eich gorsaf pleidleisio.  Fel arall, gallwch chi wneud cais am bleidlais drwy’r post, i’ch galluogi chi i bleidleisio o gartref.   Rhowch eich côd post yn y safle yma i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol lleol.

  • A gaf i gymorth i lenwi fy mhleidlais drwy’r post?

    Er mwyn gweld pa gymorth sydd ar gael - rhowch eich côd post yn y safle yma i ddod o hyd i’w manylion cyswllt.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod