Ynghylch

Mae gwefan fy mhleidlais i yn cael ei chynnal gan y Comisiwn Etholiadol.

Mae pleidleisio yn hawl ddemocrataidd i chi fel dinesydd y DU.

Mae fy mhleidlais i yn wefan lle gallwch ddarganfod popeth sydd angen ei wybod ynghylch cofrestru i bleidleisio a phleidleisio mewn etholiadau yn y DU.

Ar y wefan hon mae gwybodaeth ynghylch:

  • cofrestru i bleidleisio
  • etholiadau sydd ar y gorwel yn y DU
  • etholiadau sydd yn cael eu cynnal yn y DU
  • y gwahanol ffyrdd o bleidleisio yn etholiadau'r DU 

Pwy yw'r Comisiwn Etholiadol?

Ein hamcan yw rhoi pleidleiswyr yn gyntaf bob tro – chi yw rheiny!

Rydym yn gorff annibynnol a grëwyd gan Senedd y DU.

Rydym yn gweithio i gefnogi etholiadau a refferenda a gynhelir yn dda yn y DU. Drwy gynnig cefnogaeth a chanllawiau i'r rheiny sy'n cymryd rhan, Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod pleidleiswyr, fel chi, yn gwybod popeth sydd angen iddynt wybod.

Beth ry'n ni'n ei wneud

Rydym yn:

  • cofrestru pleidiau gwleidyddol
  • gwneud yn siŵr bod pobl yn deall ac yn dilyn y rheolau ar gyllid pleidiau ac etholiadau
  • cyhoeddi manylion o ble mae pleidiau ac ymgeiswyr yn cael eu harian a sut y maent yn ei wario
  • gosod y safonau ar gyfer cofrestru etholiadol a chynnal etholiadau ac adrodd ar ba mor dda y gwneir hyn
  • sicrhau bod pobl yn deall ei bod hi'n bwysig cofrestru i bleidleisio a'u bod yn gwybod sut i bleidleisio
  • cynnal unrhyw refferenda a gynhelir yn unol â Deddf Pleidiau gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000