Mae safle Fy mhleidlais i yn defnyddio cwcis i hwyluso eich profiad. Caewch y blwch yma i dderbyn, neu ewch i'n tudalen cwcis i gael mwy o wybodaeth.
Nodwch nad ydym yn dal y gofrestr etholiadol. Mae pob awdurdod lleol yn dal y gofrestr etholiadol ar gyfer eu hardal nhw. Os ydych am wirio os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, neu os ydych am ddiweddaru eich manylion cofrestru gan eich bod wedi symud cartref, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol - mae eu manylion cyswllt ar gael drwy roi eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.
Darllen mwy ynghylch cofrestru i bleidleisio
Bydd unrhyw un oedd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio (neu wedi cofrestru'n ddiweddar) cyn y dyddiad cau o 18 Ebrill ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ledled y DU ar 5 Mai wedi eu cofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE ac yn gallu bwrw eu pleidlais. Does dim angen i chi ailgofrestru.
Os yw eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft, os ydych yn symud cartref rhwng nawr a dyddiad cau cofrestru ar gyfer Refferendwm yr UE, yna bydd angen i chi ailgofrestru yn eich eiddo newydd.
Os ydych yn byw tramor a hoffech gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE, mae'n rhaid i chi fod wedi bod ar y gofrestr etholiadol o fewn y 15 mlynedd diwethaf. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch eich cymhwyster i gofrestru at eich Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich awdurdod lleol lle'r oeddech wedi cofrestru ddiwethaf yn y DU - gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt drwy roi eich cod post yn yr adran 'Eich ardal leol' ar ein hafan.
Darllen mwy ynghylch pleidleiswyr tramor
Os yw eich ymholiad ynghylch cofrestru neu etholiadau yn eich ardal leol, dylech gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol - gallwch gael eu manylion cyswllt drwy roi eich cod post ar y wefan hon.
Os oes gennych adborth am ein gwefan, defnyddiwch ein ffurflen adborth gwefan.
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, gallwch:
Ein he-bostio ni: gwybodaeth@comisiwnetholiadol.org.uk
Ein ffonio ni: 0333 103 1929.
Llenwch y ffurflen gyda'ch ymholiad