Yn yr ardal hon, mae atebion i'r cwestiynau cyffredin ynghylch cofrestru i bleidleisio a phleidleisio mewn etholiadau a refferenda.
Eich pedwar cwestiwn mwyaf cyffredin
1. Sut y gallaf gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r DU?
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, gallwch gofrestru ar-lein ar unrhyw adeg yn gov.uk/register-to-vote.
Er mwyn cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, ewch i'n tudalen Register to vote in Northern Ireland (Saesneg yn unig).
2. Allech chi ddweud wrthyf a wyf wedi cofrestru ibleidleisio?
I ganfod a ydych wedi cofrestru i bleidleisio, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol. Ni all y Comisiwn Etholiadol ddweud wrthych a ydych wedi cofrestru i bleidleisio. Ni allwch wirio hyn ar lein chwaith, felly bydd angen i chi gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol.
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
3. A wyf yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau'r DU?
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn:
- 16 oed neu drosodd yng Nghymru a Lloegr (ond ni allwch bleidleisio nes y byddwch yn 18 oed); 14 oed neu drosodd yn yr Alban (ond ni allwch bleidleisio mewn etholiadau lleol nag etholiadau Senedd yr Alban nes y byddwch yn 16 oed, na phleidleisio yn etholiadau i Senedd y DU ac Ewrop nes y byddwch yn 18 oed)
- Dinesydd yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad. Ystyr dinasyddion cymwys o'r Gymanwlad yw'r rheini sydd â chaniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros ynddi, neu'r rhai nad oes angen caniatâd o'r fath arnynt
- Dinesydd gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yn y DU
- Dinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Brydeinig Dramor sy'n byw yn y DU
Dyma restr lawn o wledydd y Gymanwlad a'r Undeb Ewropeaidd (PDF) (Saesneg yn unig).
Os ydych yn ddinesydd un o'r gwledydd hyn, ac yn preswylio yn y DU, rydych yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r DU.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am yr hyn y gallwch bleidleisio drosto
4. Alla i chwilio'r gofrestr etholiadol ar-lein?
Na, mae cofrestru etholiadol yn cael ei gynnal yn lleol gan y swyddfa gofrestru etholiadol ar gyfer pob ardal, ac nid oes cofrestr etholiadol canolog y gellir ei chwilio ar-lein.
Os ydych yn ceisio chwilio am ffrind neu berthynas, gweler 'Alla i ddod o hyd i ffrind neu berthynas coll ar y gofrestr etholiadol'. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
5. Sut y gallaf gysylltu â'm swyddfa gofrestru etholiadolleol?
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Oes gennych gwestiynau eraill?
Yma, gallwch weld yr atebion i nifer o gwestiynau cyffredin eraill ar y pynciau canlynol:
- Cofrestru i bleidleisio
- Etholiadau a gynhelir yn eich ardal
- Cyfrif etholiadol a chanlyniadau
- Pleidleisio'n bersonol
- Pleidleisio drwy'r post
- Pleidleisio drwy ddirprwy
- Pleidleiswyr tramor
- Pleidleiswyr o'r lluoedd arfog
Ni allaf weld ateb i fy nghwestiwn!
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r ateb yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.