Cwestiynau Cyffredin cyfrif a chanlyniadau etholiad

Ar y dudalen hon mae atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch sut caiff canlyniadau etholiad eu cyfrif a chyhoeddi'r canlyniad.

Sut y caiff pleidleisiau eu cyfrif mewn etholiadau gwahanol yn y DU?

Caiff y cyfrif mewn etholiadau eu cynnal yn lleol gan Swyddogion Canlyniadau.

Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am gynnal etholiad a chyhoeddi canlyniadau'r etholiad hwnnw.

Etholiadau Senedd y DU ac etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr

Mae'r canlyniad yn cael eu cyfrifo drwy system 'Cyntaf i'r felin'. Mae hyn yn golygu fod yr ymgeisydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei ethol.

Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae tua thri chwarter y seddi yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio system 'cyntaf i'r felin'.
 
Rydych hefyd yn cael ail bleidlais ranbarthol dros Blaid. Mae pob Plaid yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob rhanbarth etholiadol. Mae'r seddi sydd ar ôl yn cael eu dyrannu i'r ymgeiswyr ar y rhestrau hynny yn ôl pa Blaid sydd â'r mwyaf o bleidleisiau rhanbarthol, a faint o seddi mae'r blaid honno eisoes wedi'u cael. Gall unigolyn sefyll fel ymgeisydd rhanbarthol a byddant yn cael eu trin fel pe bai ef neu hi yn blaid gyda dim on un enw ar eu rhestr.
 
Gelwir y dull o bleidleisio yn 'System Aelod Ychwanegol'.

Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban

Trefnir ymgeiswyr gan ddefnyddio rhifau a gellir trosglwyddo pleidleisio os nad oes eu hangen bellach ar yr ymgeisydd dewis cyntaf. Mae unrhyw ymgeisydd sy'n cyrraedd nifer penodol o bleidleisiau yn cael eu hethol.
 
Gelwir y dull pleidleisio yma yn 'Pleidlais drosglwyddadwy' (STV).

Pryd y caiff y canlyniadau ar gyfer etholiadau yn y DU eu cyhoeddi?

Bydd hyn yn dibynnu ar yr ardaloedd unigol a'r Swyddogion Canlyniadau. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, caiff pleidleisiau eu cyfrif ar ôl i'r bleidlais ddod i ben nos Iau, ond mewn rhai ardaloedd caiff y pleidleisiau eu cyfrif y bore canlynol. Bydd canlyniadau fel arfer yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl ar ôl i'r cyfrif gael ei gwblhau.

Os hoffech wybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch swyddfa etholiadau lleol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Sut mae ailgyfrif yn gweithio o ran etholiadau yn y DU?

Cyfrifoldeb y Swyddog Canlyniadau yn eich swyddfa etholiadau lleol yw'r ailgyfrif.
 
Mae ailgyfrif yn aml yn dibynnu ar ba mor agos yw'r canlyniadau. Gall unrhyw ymgeisydd ofyn am ailgyfrif, ond gall y Swyddog Canlyniadau wrthod y cais os ydynt yn credu ei fod yn afresymol.

Sut y gallaf roi gwybod am honiad o dwyll etholiadol ar gyfer etholiad yn y DU?

Mae twyll etholiadol yn fater difrifol, a gall gynnwys troseddau.

Os byddwch yn bryderus neu'n credu bod trosedd sy'n gysylltiedig ag etholiad wedi'i chyflawni, dylech drafod y mater gynatf gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (sy'n gyfrifol am gasglu a chynnal a chadw'r gofrestr etholiadol) neu'r Swyddog Canlyniadau (sy'n gyfrifol am gynnal etholiad a chyhoeddi canlyniadau'r etholiad hwnnw) yn eich ardal.

Os oes gennych dystiolaeth fod trosedd etholiadol wedi'i chyflawni, dylech gysylltu â'r heddlu yn syth.