A allaf bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn y DU?
Gallwch bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os ydych wedi pleidleisio mewn da bryd ar gyfer yr etholiad ac rydych:
- yn ddinesydd Prydeinig yn byw yn y DU
- yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad yn byw yn y DU
- yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon yn byw yn y DU
- yn ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y DU
- wedi cofrestru fel Gwas y Goron
- wedi cofrestru fel pleidleisiwr y lluoedd
Er mwyn gallu pleidleisio mae'n rhaid i ddinasyddion y Gymanwlad fyw yn y DU ac un ai â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, neu fod dim angen caniatâd o'r fath arnynt.
Ni allwch bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os ydych:
- dinesydd Prydeinig sy'n byw tramor ac wedi cofrestru fel etholwr tramor
Sut y byddaf yn gwybod pryd y bydd etholiad yn cael ei gynnal yn fy ardal?
Os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio, bydd eich swyddfa etholiadau lleol yn anfon cerdyn pleidleisio atoch yn dweud wrthych pryd mae etholiad yn cael ei chynnal. Bydd y cerdyn pleidleisio yn dweud ble a phryd sy'n rhaid i chi bleidleisio
Gallwch hefyd ddarganfod os oes etholiad ar y gorwel yn eich ardal chi drwy roi eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pryd mae'r etholiad nesaf yn y DU?
Gallwch ddarganfod os oes etholiad ar y gorwel yn eich ardal chi drwy roi eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.
Pwy sy'n sefyll mewn etholiad?
Mae awdurdodau lleol yn cyhoeddi enwau ymgeiswyr sy'n sefyll i'w hethol oddeutu tair wythnos cyn y diwrnod pleidleisio. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Ble y gallaf gael gwybodaeth am yr ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad yn fy ardal?
Does dim ffynhonnell unigol swyddogol o wybodaeth ar ymgeiswyr. I ddarganfod mwy am ymgeiswyr cyn etholiad, gallech fynd i wefannau ymgeiswyr neu bleidiau gwleidyddol, neu ysgrifennu at y pleidiau gwleidyddol.