Pleidleiswyr tramor

Ar y dudalen hon, gallwch weld yr atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch cofrestru fel pleidleisiwr tramor.

A all dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor bleidleisio yn etholiadau'r DU?

Gall dinasyddion Prydeinig sy'n byw tramor bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Senedd Ewrop, ond ddim mewn etholiadau lleol nac etholiadau i gyrff datganoledig megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban neu Awdurdod Llundain Fwyaf.

Bydd pleidleiswyr tramor cofrestredig yn gallu pleidleisio yn y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

Nid yw dinasyddion Prydeinig sydd wedi byw tramor am fwy na 15 mlynedd yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau y DU.

Os ydych am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban gallwch gofrestru ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

I gael mwy o wybodaeth dylech gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Pam na allaf bleidleisio os byddaf wedi bod i ffwrdd amfwy na 15 mlynedd?

Mae'r amser y mae dinesydd y DU wedi pleidleisio unwaith iddynt symud tramor wedi'i gyfyngu gan gyfraith i 15 mlynedd.

Nes 1985 nid oedd dinasyddion y DU yn byw tramor (heblaw Aelodau'r Lluoedd Arfog neu Weision y Goron) yn gallu pleidleisio. Ers hynny mae'r cyfyngiad wedi bod yn pump mlynedd, 20 myned, a bellach mae'n 15 mlynedd.

Mater i'r Llywodraeth a'r Senedd yw'r etholfraint. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, dylech gysylltu â Swyddfa'r Cabinet.

Pryd mae'r cyfnod 15 mlynedd ar gyfer pleidleiswyr tramor yn dechrau?

Mae'r cyfnod 15 mlynedd yn dechrau o'r diwrnod olaf roeddech ar y gofrestr etholiadol yn y DU. Os nad ydych yn siŵr o'r dyddiad hwnnw, bydd angen i chi gysylltu ag awdurdod lleol y cyfeiriad lle'r oeddech wedi eich cofrestru ddiwethaf. I ddod o hyd i'w fanylion cyswllt, rhowch y cod post perthnasol yn adran 'Eich ardal leol' o'n hafan.

Roeddwn i'n rhy ifanc i gofrestru i bleidleisio cyn i mi adael y DU – a allaf gofrestru i bleidleisio?

Os oeddech yn rhy ifanc i gofrestru pan wnaethoch adael y DU, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr tramor o hyd. Gallwch wneud hyn os oedd eich rhiant neu'ch gwarcheidwad wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU, ar yr amod bod llai na 15 mlynedd ers i chi adael y DU.

Bydd y cyfnod 15 mlynedd yn dechrau o'r dyddiad y gwnaethoch adael y DU.

Mae fy rhieni yn dod o'r DU ond cefais fy ngeni dramor – a allaf gofrestru i bleidleisio?

Nid oes gwahaniaeth ble y cafodd dinesydd Prydeinig ei eni. Os buoch yn breswylydd mewn cyfeiriad yn y DU ar ryw adeg yn y 15 mlynedd diwethaf a bod eich rhiant neu'ch gwarcheidwad wedi cofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad hwnnw, gallwch gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr tramor.

Rwy'n gweithio i sefydliad Prydeinig dramor. Sut gallaf gofrestru i bleidleisio?

Gall dinasyddion Prydeinig sy'n gweithio i sefydliadau Prydeinig dramor (heblaw am Luoedd EM, y British Council neu fel Gwas y Goron) gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr tramor. Darllenwch 'A all dinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor bleidleisio yn etholiadau'r DU?' am ragor o wybodaeth.

Pa ddulliau o bleidleisio yn etholiadau'r DU sydd ar gael i bleidleiswyr tramor?

Gall pleidleiswyr tramor wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (rhywun yn pleidleisio ar eich rhan). Rhaid i bleidleiswyr tramor ar gofrestrau etholiadol yng Ngogledd Iwerddon naill ai benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan neu bleidleisio'n bersonol os byddwch yn y DU adeg yr etholiad, gan na allwch bleidleisio drwy'r post.

Pleidleisio drwy'r post

Mae angen i chi sicrhau bod gennych amser i wneud cais i bleidleisio drwy'r post, derbyn y papurau pleidleisio ac yna eu dychwelyd erbyn y diwrnod pleidleisio. Os nad ydych yn credu y gallwch eu dychwelyd mewn pryd, efallai y byddwch am ystyried pleidleisio drwy ddirprwy.

I weld pryd y caiff pleidleisiau post eu hanfon, cysylltwch ag awdurdod lleol y cyfeiriad rydych wedi cofrestru ar ei gyfer. Gallwch weld manylion cyswllt eich swyddfa gofrestru etholiadol leol drwy roi'r cod post perthnasol yn adran 'Eich ardal leol' o'n hafan.

Rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os ydych dramor gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu y gallwch benodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Rhaid eich bod chi a'r sawl a benodir gennych yn ddirprwy wedi cofrestru i bleidleisio.

Rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy

Rwy'n byw y tu allan i'r DU – pa gyfeiriad ddylwn i eigynnwys ar fy ffurflen gais am bleidlais bost?

Bydd angen i chi gynnwys y cyfeiriad lle gwnaethoch gofrestru ddiwethaf i bleidleisio yn y DU. Mae adran ar y ffurflen ar gyfer eich cyfeiriad cyswllt – gallwch gynnwys eich cyfeiriad tramor yn yr adran honno.

Rwy'n byw y tu allan i'r DU – a allafbleidleisio yn Refferendwm yr UE sydd ar fin cael ei gynnal?

Gallwch, bydd modd i bleidleiswyr tramor cofrestredig bleidleisio yn y Refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd sydd ar fin cael ei gynnal.

Mi fydd y refferendwm yn cymryd lle ar Ddydd Iau 23 Mehefin 2016.

Darllenwch fwy am Refferendwm yr UE

Ni chaiff dinasyddion Prydeinig sydd wedi byw dramor ers mwy na 15 mlynedd gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE.

Sut mae cofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr tramor yn refferendwm yr UE?

I gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, ewch ar-lein yn yr un ffordd â phob pleidleisiwr arall ym Mhrydain Fawr. Gallwch gofrestru i bleidleisio unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

I gofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon i lawrlwytho'r ffurflen gywir.

Dylech gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE erbyn dydd Llun 16 Mai 2016.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol. I ddod o hyd i'w manylion cyswllt, rhowch eich cod post yn adran 'Eich ardal leol' o'n hafan.

Ni chaiff dinasyddion Prydeinig sydd wedi byw dramor ers mwy na 15 mlynedd gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE.

Gallwch ddarllen mwy am y cyfnod 15 mlynedd hwn uchod.

Pryd y dylwn gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr tramor yn refferendwm yr UE?

Er mwyn sicrhau eich bod yn gallu pleidleisio yn refferendwm yr UE fel pleidleisiwr tramor, dylech gofrestru i bleidleisio cyn gynted â phosibl.

Dylai dinasyddion y DU sy'n byw dramor wneud cais i gofrestru i bleidleisio erbyn 16 Mai 2016 ac yna, unwaith y byddant wedi cofrestru, rhaid gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy er mwyn gallu pleidleisio o'r tu allan i'r DU.

Caiff papurau pleidleisio drwy'r post eu hanfon at bob pleidleisiwr tramor cymwys sydd wedi cofrestru i bleidleisio drwy'r post mewn da bryd ar gyfer y set gyntaf rhwng 23 a 27 Mai. Bydd y sawl sy'n gwneud cais i gofrestru yn hwyrach yn cael papurau pleidleisio ar ôl i'w cofrestriad gael ei gadarnhau.

Pa ddulliau o bleidleisio sydd ar gael i mi yn refferendwm yr UE fel pleidleisiwr tramor?

Gall pleidleiswyr tramor wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (rhywun yn pleidleisio ar eich rhan) yn refferendwm yr UE. Rhaid i bleidleiswyr tramor ar gofrestrau etholiadol yng Ngogledd Iwerddon naill ai benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan neu bleidleisio'n bersonol os byddwch yn y DU adeg yr etholiad, gan na allwch bleidleisio drwy'r post.

Pleidleisio drwy'r post

Mae angen i chi sicrhau bod gennych amser i wneud cais i bleidleisio drwy'r post, derbyn y papurau pleidleisio ac yna eu dychwelyd erbyn y diwrnod pleidleisio. Os nad ydych yn credu y gallwch eu dychwelyd mewn pryd, efallai y byddwch am ystyried pleidleisio drwy ddirprwy.

I weld pryd y caiff pleidleisiau post eu hanfon, cysylltwch ag awdurdod lleol y cyfeiriad rydych wedi cofrestru ar ei gyfer. Gallwch weld manylion cyswllt eich swyddfa gofrestru etholiadol leol drwy roi'r cod post perthnasol yn adran 'Eich ardal leol' o'n hafan.

Rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os ydych dramor gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu y gallwch benodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Rhaid eich bod chi a'r sawl a benodir gennych yn ddirprwy wedi cofrestru i bleidleisio.

Rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy

Rwy’n bleidleiswyr tramor cofrestredig. Pryd y byddaf yn cael fy mhapur pleidleisio drwy'r post ar gyfer refferendwm yr UE?

Caiff papurau pleidleisio drwy'r post eu hanfon at bob pleidleisiwr tramor cymwys sydd wedi cofrestru i bleidleisio drwy'r post mewn da bryd ar gyfer y set gyntaf rhwng 23 a 27 Mai. Bydd y sawl sy'n gwneud cais i gofrestru yn hwyrach yn cael papurau pleidleisio ar ôl i'w cofrestriad gael ei gadarnhau.

Rhaid i chi ddychwelyd eich papur pleidleisio erbyn 10pm ar 23 Mehefin 2016 er mwyn iddo gyfrif yn refferendwm yr UE.

Rwy'n bleidleisiwr tramor cofrestredig. Erbyn pryd mae'n rhaid i mi ddychwelyd fy nghais i bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer refferendwm yr UE?

Os ydych yn bleidleisiwr tramor sydd wedi cofrestru ym Mhrydain Fawr, unwaith y byddwch wedi cwblhau a llofnodi eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy, dylech ei anfon i'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol erbyn 5pm ar 15 Mehefin 2016.

Os ydych yn bleidleisiwr tramor sydd wedi cofrestru yng Ngogledd Iwerddon, dylech ddychwelyd eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy at eich Swyddfa Etholiadol Ardal leol erbyn 5pm ar 3 Mehefin 2016.

Gallwch weld manylion cyswllt eich swyddfa gofrestru etholiadol leol drwy roi eich cod post yn adran 'Eich ardal leol' o'n hafan'.

Pan fyddwch yn gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, bydd angen i chi nodi pam na allwch bleidleisio'n bersonol. Rhaid bod eich dirprwy wedi cofrestru i bleidleisio a bod yn gymwys i bleidleisio yn y refferendwm. Bydd eich dirprwy yn pleidleisio ar eich rhan felly bydd angen i chi ddweud wrtho sut rydych am bleidleisio.