Ar y dudalen hon mae'r atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch cofrestru i bleidleisio yn y DU.
Pwy all gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r DU?
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn:
16 neu'n hŷn yng Nghymru a Lloegr (ond allwch chi ddim pleidleisio nes eich bod chi'n 18); neu'n 14 oed neu'n hŷn yn yr Alban (ond allwch chi ddim pleidleisio mewn etholiadau lleol nac etholiadau i Senedd yr Alban nes eich bod yn 16, neu etholiadau'r DU a Senedd Ewrop nes eich bod yn 18).
Dinesydd y DU, Gweriniaeth Iwerddon neu ddinesydd cymwys y Gymanwlad. Dinasyddion cymwys y gymanwlad yw'r rheiny sydd â chaniatad i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatad o'r fath arnynt.
Dinesydd gwlad yr Unedb Ewropeaidd yn byw yn y DU
Dinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynyw Manaw neu Diriogaeth Prydeinig Tramor sy'n byw yn y DU
Isod mae rhestr lawn o wledydd y Gymanwlad a'r Undeb Ewropeaidd. Os ydych yn ddinesydd un o'r gwledydd hyn, ac yn breswylydd yn y DU, rydych yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r DU.
Gweld y rhestr lawn o wledydd y Gymanwlad a'r Undeb Ewropeaidd (PDF)
Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r DU?
Os ydych am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban gallwch gofrestru ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Ydw i wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r DU?
I ddarganfod os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. Ni all y Comisiwn Etholiadol ddweud os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio.
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pryd alla i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r DU?
Gallwch bellach gofrestru unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, gan y caiff y gofrestr ei diweddaru bob mis. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych yn symud cartref ac angen cofrestru yn eich cartref newydd.
Os ydych am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban gallwch gofrestru ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Sut alla i gysylltu â'm swyddfa gofrestru etholiadol lleol?
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pam fod angen i mi gofrestru i bleidleisio?
Mae'n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio yn holl etholiadau a refferenda'r DU. Nid ydych wedi'ch cofrestru awtomatig, hyd yn oed os ydych yn talu treth gyngor.
Os ydych yn derbyn cais am eich gwybodaeth cofrestru gan eich swyddfa cofrestru etholiadol lleol, yna mae'n ofyniad cyfreithiol arnoch i ymateb. Os na wnewch chi ymateb, fe allech wynebu dirwy o hyd at £1,000.
Mae hi'n drosedd i roi camwybodaeth ar y ffurflen hon gan wybod hynny, a gallech wynebu dirwy o hyd at £5,000 a/neu hyd at chwe mis yn y carchar. Os nad ydych yn gwneud cais i gofrestru pan fod gofyn gwneud gallech wynebu dirwy o £80.
Mae rhai pobl hefyd yn cofrestru i bleidleisio gan eu bod am wneud cais am gredyd. Mae hyn gan fod asiantaethau gwirio credyd yn defnyddio'r gofrestr i gadarnhau ble mae rhywun yn byw pan eu bod yn gwneud cais am gredyd er mwyn gwrthweithio twyll.
Ai unwaith yn unig y mae angen i mi gofrestru i bleidleisio neu bob blwyddyn?
If you want to register to vote in England, Scotland or Os ydych am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban gallwch gofrestru ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Does dim angen i chi gofrestru eto heblaw eich bod yn newid eich cyfeiriad.
Bydd ffurflen yn cael ei anfon bob blwyddyn i gadarnhau pwy sy'n byw yn eich cartref. Unwaith i chi ddychwelyd y ffurflen, bydd unrhyw un nad ydynt wedi'u cofrestru yn derbyn gwahoddiad i wneud.
I gael mwy o wybodaeth dylech gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
A oes angen i mi fynd i rywle er mwyn cofrestru i bleidleisio?
Na.
Os ydych am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban gallwch gofrestru ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
A allaf gofrestru i bleidleisio dros y ffôn?
Mae rhai awdurdodau lleol yn darparu gwasanaeth cofrestru dros y ffôn. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Os oes angen i chi ddychwelyd ffurflen i'ch awdurdod lleol, megis ar gyfer cais pleidlais bost neu drwy ddirprwy, efallai y gallant dderbyn sgan neu ffacs o ffurflen wedi'i chwblhau a'i llofnodi. Fodd bynnag, dylech gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol yn gyntaf i sicrhau y gallant dderbyn ffurflen yn y modd hyn. I ddod o hyd i'w manylion cyswllt drwy roi eich cod post yn y panel 'Eich ardal leol'.
Os byddaf yn cofrestru i bleidleisio, pa fanylion personol fydd yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol?
Yr unig fanylion sy'n ymddangos ar y gofrestr yw'ch enw, cyfeiriad a dynodydd sy'n nodi pa etholiadau allwch bleidleisio ynddynt. Os ydych o dan 18, bydd dyddiad eich penblwydd yn 18 hefyd yn cael ei ddangos.
Os byddaf yn cofrestru i bleidleisio, a gaiff fy manylion personol eu rhoi i sefydliadau trydydd parti?
Mae swyddogion cofrestru yn cadw dwy gofrestr - y gofrestr etholiadol a'r gofrestr agored (a elwir y gofrestr olygedig hefyd).
Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus. Defnyddir y gofrestr at ddibenion etholiadol, megis sicrhau mai dim ond pobl sy'n gymwys i wneud all bleidleisio. Fe'i defnyddir hefyd at ddibenion cyfyngedig eraill a nodir mewn cyfraith, megis canfod trosedd (e.e. twyll), galw pobl i wasanaeth rheithgor a gwirio ceisiadau credyd.
Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol, ond ni chaiff ei ddefnyddio ar gyfer etholiadau. Gall gael ei brynnu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Er enghraifft, caiff ei ddefnyddio gan fusnesau ac elusenau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad yn cael eu cynnwys yn y gofrestr agored heblaw eich bod yn gofyn iddynt gael eu tynnu. Gallwch dynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored ar unrhyw adeg drwy gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.
Rwy'n bryderus bod fy enw yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol; a allaf gofrestru'n ddienw?
Gallwch ofyn i gofrestru'n ddienw am resymau diogelwch - megis os ydych yn dianc rhag trais, neu os oes gennych swydd sy'n eich rhoi mewn risg gan bobl eraill.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddienw, yn hytrach na bod eich enw a'ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol, bydd cod yn cael ei ychwanegu at y gofrestr yn lle.
I gofrestru i bleidleisio yn ddienw bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o orchymyn llys neu ardystiad gan berson awdurdodedig i gefnogi eich cais.
Lawrlwytho ffurflen i gofrestru i bleidleisio yn ddienw o gov.uk
I ddarganfod mwy, bydd angen i chi gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Rwyf wedi cyflwyno fy nghais i gofrestru i bleidleisio – faint o amser y bydd yn ei gymryd er mwyn i'm manylion ymddangos ar y gofrestr?
Mae'r gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru bob mis. Bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eich ardal i wybod yn union pryd fydd eich manylion yn cael eu hychwanegu. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Rwyf wedi newid fy enw yn ddiweddar. Sut gallaf ddiweddaru fy manylion ar y gofrestr etholiadol?
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen newid enw a'i dychwelyd i'ch awdurdod lleol er mwyn newid eich enw ar y gofrestr etholiadol.
Dim ond eich awdurdod lleol a all ddarparu'r ffurflenni hyn ar hyn o bryd, felly bydd angen i chi gysylltu â nhw i wneud cais am ffurflen drwy'r post. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
A fydd angen i mi ailgofrestru i bleidleisio os byddaf yn symud tŷ?
Bydd, pan yr ydych yn symud cartref mae'n rhaid i chi gofrestru yn eich cyfeiriad newydd. Os ydych wedi cofrestru ers i chi symud i'ch cartref newydd, does dim angen i chi gofrestru eto. Os nad ydych, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto. Pan fyddwch yn cofrestru i'ch cyfeiriad newydd, bydd eich awdurdod lleol newydd yn gwneud yn siŵr eich bod wedi eich tynnu oddi ar y gofrestr yn eich hen gyfeiriad.
Os ydych am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban gallwch gofrestru ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Pam na allaf gael gwiriad credyd?
Os cafodd eich cais am gredyd ei wrthod am nad oedd modd i'ch banc neu asiantaeth gwirio credyd ddilysu eich manylion ar y gofrestr etholiadol, mae hyn am eu bod defnyddio'r gofrestr etholiadol yn aml at ddibenion gwirio credyd er mwyn atal twyll.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi gysylltu â'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol er mwyn cadarnhau eich bod wedi cofrestru. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Gall anfon llythyr atoch sy'n cadarnhau eich manylion ar y gofrestr etholiadol, ond efallai y bydd tâl. Weithiau, mae'r cofnodion a gaiff eu cadw gan asiantaethau gwirio credyd yn anghywir - dylent allu anfon copi o'ch cofnod atoch fel y gallwch wirio'r manylion.
Os ydych eisoes wedi darparu cadarnhad eich bod wedi'ch cofrestru i'ch banc neu asiantaeth gwirio credyd, bydd angen i chi ddatrys unrhyw broblemau eraill gyda nhw.
A allaf ddileu fy manylion o'r gofrestr etholiadol?
Nid yw'n bosib i chi dynnu eich hun oddi ar y gofrestr etholiadol yn eich cyfeiriad presennol heblaw eich bod yn symud cartref. Pan fyddwch yn cofrestru i'ch cyfeiriad newydd, bydd eich awdurdod lleol newydd yn gwneud yn siŵr eich bod wedi eich tynnu oddi ar y gofrestr yn eich hen gyfeiriad.
Gallwch dynnu eich hun oddi ar y gofrestr agored, y gofrestr sydd ar gael i'w gwerthu, unrhyw bryd, drwy gysylltu â'ch swyddfa cofresrtu etholiadol lleol.
Os ydych mewn risg os yw'ch enw yn ymddangos ar y gofrestr etholiadol, efallai y gallwch gofrestru'n ddienw. I gael mwy o wybodaeth, gweler "Rwy'n poeni am fy enw'n ymddangos ar y gofrestr; alla i gofrestru'n ddienw?".
A all Gweision y Goron, cyflogeion y British Council ac aelodau o'r Lluoedd Arfog sy'n gweithio dramor bleidleisio yn etholiadau'r DU?
Gall Gweision y Goron (megis y gwasanaeth diplomataidd, gwasanaeth sifil tramor), gweithwyr y British Council ac aelodau'r Lluoedd Arfog sydd tramor gofrestru a phleidleisio ym mhob etholiad.
Gallwch hefyd gofrestru fel pleidleisiwr sy'n gwasanaethu os yw'ch priod neu'ch partner sifil yn aelod o'r Lluoedd Arfog, yn Was y Goron neu'n weithiwr y British Council sy'n gwasanaethu tramor.
Os ydych am gofrestru i bleidleisio gallwch wneud cais ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio:
- Cofrestru i bleidleisio fel aelod o'r Lluoedd Arfog
- Cofrestru i bleidleisio fel Gwas y Goron neu weithiwr y British Council
I gael mwy o wybodaeth ynghylch cofrestru fel pleidleisiwr sy'n gwasanaethu dylech gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Yna gallwch ddewis pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (rhywun yn pleidleisio ar eich rhan). Efallai mai dim ond wythnos cyn etholiad fydd pleidleisiau post yn cael eu dosbarthu. Bydd angen i chi ystyried p'un a bod hyn yn rhoi digon o amser i chi gwblhau a dychwelyd eich papur pleidleisio post mewn pryd. Efallai y byddai'n well penodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan.
Rwy'n fyfyriwr – pa gyfeiriad y dylwn i ei ddefnyddio i gofrestru i bleidleisio?
Gall myfyrwyr fod â hawl cofrestru yn eu cyfeiriad cartref a'u cyfeiriad prifysgol, ond dim ond unwaith gallant bleidleisio yn yr un siambr neu swydd.
Er enghraifft, efallai eich bod wedi'ch cofrestru mewn dau fwrdeistref gwahanol yn Llundain. Gallwch bleidleisio unwaith ymhob etholiad bwrdeistref gan eu bod yn etholiadau i ddwy neudd y dref gwahanol, ond yn etholiad Maer Llundain a chynulliad Llundain, dim ond unwaith y gallwch bleidleisio, gan eu bod yn etholiad ar gyfer yr un corff neu swydd.
Mae'r penderfyniad terfynnol am gofrestru yn gorffwys gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yr ydych yn ceisio cofrestru gyda nhw. I gael mwy o wybodaeth dylech gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pa fanylion fydd yn ymddangos ar y gofrestr?
Yr unig fanylion sy'n ymddangos ar y gofrestr yw'ch enw, cyfeiriad a dynodydd sy'n nodi pa etholiadau allwch bleidleisio ynddynt. Os ydych o dan 18, bydd dyddiad eich penblwydd yn 18 hefyd yn cael ei ddangos.
A allaf gofrestru i bleidleisio mewn dau gyfeiriad gwahanol?
Gallwch fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio mewn dau gyfeiriad gwahanol os ydych yn preswylio yn y ddau gyfeiriad ac yn treulio amser hafal yn y ddau le.
Er enghraifft, gall myfyrwyr gael eu cofrestru yn eu cartref a'u cyfeiriad amser tymor. Mae'r penderfyniad o ran pwy sy'n gymwys i gofrestr mewn cyfeiriad yn aros gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer yr ardal honno.
Mae'n drosedd pleidleisio dwywaith yn yr un etholiad megis mewn etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, gallwch bleidleisio mewn etholiadau mewn dau gyngor lleol arwahan.
Beth yw'r system newydd ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn y DU?
Cafodd y system cofrestriad etholiadol unigol ei chyflwyno yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn 2014.
O dan y system newydd, mae pawb bellach yn gyfrifol am gofrestru eu hunain i bleidleisio. O dan yr hen system gallai penteulu pob cartref gofrestru pawb a oedd yn byw yn y cyfeiriad hwnnw.
Os ydych wedi cofrestru eich hun yn eich cyfeiriad presennol ers 10 Mehefin 2014 yng Nghymru a Lloegr, neu ers 19 Medi 2014 yn yr Alban, ac nad ydych wedi symud ers hynny, byddwch wedi'ch cofrestru i bleidleisio o dan y system newydd.
Os nad ydych yn sicr p'un a ydych wedi cofrestru o dan y system newydd ai peidio, cysylltwch â staff cofrestru etholiadol lleol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
A allaf ddod o hyd ffrind neu berthynas coll ar y gofrestr etholiadol?
Gallai dod o hyd i ffrind neu berthynas coll ar y gofrestr etholiadol gan fod cofrestru etholiadol yn cael ei wneud gan y swyddfa gofrestru etholiadol ar gyfer pob ardal, ac nid oes cofrestr etholiadol canolog y gellir ei chwilio.
I weld y gofrestr etholiadol ar gyfer ardal benodol, dyclehc gysylltu â'r awdurdod lleol perthnasol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Mae'r cyfnod o amser y mae awdurdodau lleol yn cynnal eu cofrestrau yn amrywio, ond unwaith iddynt gael eu rhyddhau maent yn cael eu hanfon at y Llyfrgell Brydeinig. Efallai bydd Swyddfa'r Gofrestr Gyffredin neu'r Archifau Cenedlaethol hefyd yn gallu eich helpu chi.
A allaf chwilio'r gofrestr etholiadol ar-lein?
Na, mae cofrestru etholiadol yn cael ei gynnal yn lleol gan y swyddfa gofrestru etholiadol ar gyfer pob ardal, ac nid oes cofrestr etholiadol canolog y gellir ei chwilio ar-lein.
Os ydych yn ceisio chwilio am ffrind neu berthynas, gweler 'Alla i ddod o hyd i ffrind neu berthynas coll ar y gofrestr etholiadol'. Os hoffech wirio os ydych wedi'ch cofrestru, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.