Pleidleiswyr o'r lluoedd arfog

Ar y dudalen hon, gallwch weld yr atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch cofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog.

Rwy yn y Lluoedd Arfog yn byw yn y DU. Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r DU?

Mae gan bersonél sy'n gwasanaethu, eu gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil ddewis o wneud datganiad Gwasanaethu, neu gallant gofrestru i bleidleisio yn y modd traddodiadol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael, ac i gofrestru i bleidleisio ewch i gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Rwyf yn y Lluoedd Arfog. Pa ddulliau o bleidleisio ynetholiadau'r DU sydd ar gael i mi?

Gall pleidleiswyr sy'n gwasanaethu a'u gwŷr, gwragedd neu bartneriaid sifil bleidleisio yn bersonol neu gallant benderfynu bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (rhywun yn pleidleisio ar eich rhan).

Efallai mai dim ond wythnos cyn etholiad fydd pleidleisiau post yn cael eu dosbarthu. Os ydych yn byw tramor, gallai fod yn well penodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan gan efallai na fydd digon o amser i'ch pleidlais bost eich cyrraedd a'i anfon yn ôl cyn i bleidleisio ddod i ben

Llynedd, newidodd y ffordd yr ydym yn cofrestru i bleidleisio, ac os ydych am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ma'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru dan y system newydd.

I sicrhau eich bod wedi'ch cofrestru'n gywir, cysylltwch â'r awdurdod lleol ar gyfer y cyfeiriad yr ydych wedi cofrestru ynddo. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Darganfod mwy am fwrw'ch pleidlais drwy'r post

Darganfod mwy am fwrw'ch pleidlais drwy ddirprwy