Pleidleisio drwy'r post

Ar y dudalen hon mae'r atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch pleidleisio drwy'r post mewn etholiad neu refferendwm.

Sut y gallaf gael pleidlais bost ar gyfer etholiad yn y DU?

Gallwch lawrlwytho cais am bleidlais bost yma. Llenwch ef a'i ddychwelyd i'ch swyddfa gofrestru etholiadol.

Pwy all wneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiad yn y DU?

Yn 2014, newidodd y ffordd yr ydym yn cofrestru i bleidleisio, ac os ydych am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ma'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru dan y system newydd.

I sicrhau eich bod wedi'ch cofrestru'n gywir, cysylltwch â'r awdurdod lleol ar gyfer y cyfeiriad yr ydych wedi cofrestru ynddo. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Cysylltwch â'ch Swyddog Cofrestru Etholiadol neu ewch i www.gov.uk/gwybodaethamgofrestru i gael mwy o wybodaeth.

Pa mor ddiogel yw pleidlais bost ar gyfer etholiad yn y DU?

Wrth i chi wneud cais am bleidlais bost, mae'n rhaid i chi roi llofnod a dyddiad geni ar y ffurflen. Pan fyddwch yn cwblhau eich pecyn pleidleisio post bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth hon eto. Caiff y llofnod a'r dyddiad geni ar eich datganiad pleidleisio post eu gwirio yn erbyn y rhai ar eich cais i rwystro twyll. Caiff eich gwybodaeth bersonol ei wahanu wrth eich papur pleidleisio cyn i neb edrych arno na'i gyfri, ac felly ni effeithir ar gyfrinachedd eich pleidlais.

Mae'n drosedd cwblhau papur pleidleisio nad yw'n perthyn i chi, ac i ddylanwadu ar eraill o ran sut i gwblhau eu pleidlais bost. Dylech gyfeirio unrhyw honiadau o dwyll at yr heddlu.

Oes angen i mi gofrestru i bleidleisio os byddaf yn gwneud cais am bleidlais bost?

Yng Nghymru a Lloegr a'r Alban, dim ond etholwyr sydd wedi'u (neu a fydd wedi'u) cofrestru'n unigol fydd â hawl i wneud cais i bleidleisio drwy'r post. 

Cysylltwch â'ch Swyddog Cofrestru Etholiadol neu ewch i www.gov.uk/gwybodaethamgofrestru i gael mwy o wybodaeth.

I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Dros ba gyfnod y bydd fy mhleidlais bost yn para?

Gallwch wneud cais ar gfyer un etholiad neu refferendwm, ar gyfer cyfnod penodol o amser, neu am bleidlais bost barhaol.

Pryd y gallaf ddisgwyl derbyn fy mhleidlais bost ar gyfer etholiad yn y DU?

Y Swyddog Canlyniadau (yr unigolyn sy'n gyfrifol am gynnal yr etholiad) sy'n dosbarthu pleidleisiau post, felly dylech gysylltu â'r swyddfa etholiadau yn eich awdurdod lleol. Fel canllaw, ni allant gael eu rhoi nes bod yr holl ymgeiswyr wedi'u henwebu (y dyddiad cau fel arfer yw 4pm 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais). Mae angen argraffu papurau pleidleisio a chynhyrchu pecynnau pleidleisio post. Mae hyn yn golygu, yn ymarferol efallai na ellir eu hanfon nes yn agosach at y diwrnod pleidleisio.

Cysylltwch â'ch swyddfa etholiadau lleol i ddarganfod pryd fydd eich papurau pleidleisio post yn cyrraedd. Mae eu manylion cyswllt ar gael drwy roi eich cod post yn yr adran Eich ardal leol ar frig dde'r dudalen hon.

I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Pam fod angen i mi roi fy nyddiad geni a llofnod er mwyn cael pleidlais bost?

Mae gofyn i bob pleidleisiwr post a dirprwy roi eu dyddiad geni a'u llofnod wrth wneud cais am bleidlais bost neu ddirprwy.

Pan fyddwch yn dychwelyd eich pecyn pleidleisio post, caiff eich llofnod a'ch dyddiad geni eu gwirio yn erbyn y rheiny ar eich cais i gadarnhau eich hunaniaeth. Caiff eich llofnod a'ch dyddiad geni eu gwahanu wrth eich papur pleidleisio cyn i neb edrych arno na'i gyfrif, felly ni fydd rhoi'r wybodaeth hon yn effeithio ar gyfrinachedd y bleidlais.

Ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gallu llofnodi eu ffurflen, neu nad ydynt yn gallu ei lofnodi mewn modd cyson, gellir gwneud darpariaeth arbennig. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'ch Swyddog Cofrestru Etholiadol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Pam nad wyf wedi derbyn fy mhapur pleidleisio drwy'r post?

Dylech dderbyn eich papur pleidleisio post oddeutu wythnos cyn yr etholiad. I ddarganfod pryd maent yn cael eu hanfon yn eich ardal chi, cysylltwch â'r gwasanaethau etholiadol yn eich awdurdod lleol. Os nad yw'n cyrraedd, gallwch gael papur pleidleisio post yn ei le yn bersonol gan eich Swyddog Canlyniadau cyn 5pm ar y diwrnod pleidleisio.

I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Os byddaf wedi gwneud cais am bleidlais bost, a oes modd i mi bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio o hyd?

Os ydych wedi gwneud cais am bleidlais bost, ni allwch i bleidleisio yn bersonol yn yr orsaf bleidleisio.

Fodd bynnag, ar y diwrnod pleidleisio gallwch ddychwelyd eich peidlais bost mewn gorsaf bleidleisio (cyn 10pm) neu i'r Swyddog Canlyniadau yn eich cyngor lleol (cyn iddynt gau) os nad ydych am ei bostio neu ei fod yn rhy hwyr i'w bostio.

Cysylltwch â'r Swyddog Canlyniadau yn eich cyngor lleol i ddarganfod ble mae eich gorsaf bleidleisio.

Rwyf wedi difetha fy mhapur pleidleisio neu ddatganiad pleidlais bost. Beth ddylwn i ei wneud?

Gallwch gael un yn ei le nes 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Mae'n rhaid i chi ei gasglu yn bersonol gan eich Swyddog Canlyniadau.

Bydd hefyd angn i chi ddychwelyd eich papur pleidleisio wedi'i ddifetha a'r rhannau eraill o'r pecyn pleidleisio a anfonwyd atoch.

Rwyf wedi colli fy mhapur pleidleisio drwy'r post . Beth ddylwn i ei wneud?

Gallwch gael papur pleidlesio yn ei le yn bersonol gan eich Swyddog Canlyniadau hyd at 5m ar y diwrnod pleidleisio.

Sut y gallaf ganslo pleidlais bost sy'n bodoli ar gyfer etholiad yn y DU?

I ganslo eich pleidlais bost bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddog Cofrestru Etholiadol lleol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.

Rwy'n byw y tu allan i'r DU - pa gyfeiriad ddylwn i ei gynnwys ar fy ffurflen gais am bleidlais bost?

Bydd angen i chi gynnwys y cyfeiriad lle cafoch eich cofrestru ddiwethaf yn y DU. Mae adran ar y ffurflen ar gyfer eich cyfeiriad gohebu - gallwch gynnwys eich cyfeiriad tramor yn yr adran hon.

A allaf ddychwelyd y ffurflenni pleidleisiau post i'r awdurdod etholiadol lleol yn electronig?

Os oes angen i chi ddychwelyd ffurflen i'ch awdurdod lleol, megis ar gyfer cais pleidlais bost neu drwy ddirprwy, efallai y gallant dderbyn sgan neu ffacs o ffurflen wedi'i chwblhau a'i llofnodi. Fodd bynnag, dylech gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol yn gyntaf i sicrhau y gallant dderbyn ffurflen yn y modd hwn. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.