Ar y dudalen hon mae'r atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch pleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad neu refferendwm.
Pwy all wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad yn y DU?
Llynedd, newidodd y ffordd yr ydym yn cofrestru i bleidleisio, ac os ydych am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ma'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru dan y system newydd.
I sicrhau eich bod wedi'ch cofrestru'n gywir, cysylltwch â'r awdurdod lleol ar gyfer y cyfeiriad yr ydych wedi cofrestru ynddo. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.
Sut y gallaf gael pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad yn y DU?
Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy newydd hyd nes 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn etholiad a gallwch newid pleidlais drwy ddirprwy presennol hyd nes 5pm, un ar ddeg diwrnod gwaith cyn y diwrnod bleidlais.
Os ydych yn sydyn yn analluog i bleidleisio, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy hyd nes y diwrnod pleidleisio. Mae'n rhaid i'r holl geisiadau gael eu derbyn erbyn 5pm ar y diwrnod a nodir.
Hefyd, gallwch wneud cais am ddirprwy mewn argyfwng hyd nes 5pm ar y diwrnod pleidleisio os yw'ch galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio yn bersonol, a'ch bod ond yn ymwybodol o'r ffaith ar ôl 5pm 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.
I lawrlwytho ffurflen gais i bleidleisio drwy ddirprwy, ewch i'n tudalen bleidleisio drwy ddirprwy
Pwy all fod yn ddirprwy ar fy rhan ar gyfer etholiad yn y DU?
Dim ond os yw'r person yr ydych am benodi fel eich dirprwy dros 18 ac, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban eu bod wedi (neu y byddant wedi) cofrestru'n unigol, y gallant fod yn ddirprwy i chi.
Rwyf newydd ganfod y byddaf i ffwrdd ar ddiwrnod yr etholiad oherwydd ymrwymiadau gwaith – a all rhywun bleidleisio ar fy rhan?
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng nes 5pm ar ddiwrnod yr etholiad os yw'ch galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio.
Mae hyn ddim ond os ydych yn dod yn ymwybodol o'r ffaith ar ôl 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy?
Mae'n rhaid i'ch dirprwy fynd i'ch gorsaf bleidleisio leol chi i bleidleisio.
Bydd eich dirprwy yn cael cerdyn pleidleisio dirprwy yn dweud wrthynt ble a phryd i bleidleisio.
Dylech ddweud wrth eich dirprwy sut yr hoffech iddynt bleidleisio ar eich rhan, er enghraifft, pa ymgeisydd neu pa blaid.
Os na all eich dirprwy fynd i'r orsaf bleidleisio, gallant wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Gallant wneud cais i wneud hyn hyd at 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad. Gall eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn yr ardal yr ydych wedi'ch cofrestru roi mwy o fanylion i chi am hyn. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.
Os ydych chi'n gallu mynd i'r orsaf bleidleisio yn y pen draw ar y diwrnod pleidleisio, gallwch bleidleisio yn bersonol cyn belled nad yw'ch dirprwy wedi gwneud eisoes, na wedi gwneud cais i bleidleisio i chi drwy'r post.
Ni all perthynas neu ffrind adael y tŷ am resymau annisgwyl. A allaf bleidleisio ar eu rhan?
Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng oherwydd rhesymau meddygol hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Mae hyn yn berthnasol am resymau meddygol sy'n digwydd ar ôl 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Rwyf wedi cael fy ngwneud yn ddirprwy dros rywun. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Mae bod yn ddirprwy i rywun yn hawdd. Byddwch yn cael cerdyn pleidleisio drwy ddirprwy gyda manylion o ble y dylech bleidleisio.
Dywedwch wrth y staff yn yr orsaf bleidleisio eich bod yn pleidleisio fel dirprwy a byddant yn dweud wrthych beth i'w wneud. Peidiwch ag anghofio mynd â'ch cerdyn pleidleisio drwy ddirprwy - bydd hyn yn ei gwneud yn haws i staff y man pleidleisio i ddod o hyd i'r papur pleidleisio cywir.
Os na allwch fynd i'r man pleidleisio, gallwch bleidleisio drwy'r post. Mae'n rhaid i chi wneud cais am y bleidlais bost cyn 5pm 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Cysylltwch â staff cofrestru etholiadol lleol i ddarganfod sut i wneud hyn. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch 'Eich ardal leol' ar ein hafan.