Sut ydw i'n gwybod lle mae fy ngorsaf bleidleisio?
Bydd lleoliad eich gorsaf bleidleisio ar y cerdyn pleidleisio fydd yn cael ei anfon atoch cyn y diwrnod pleidleisio.
Neu gallwch gysylltu â'ch swyddfa etholiadau lleol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Alla i gael help neu lifft i'r orsaf bleidleisio?
Os ydych yn anabl a bod angen cymorth arnoch i fynd i'r orsaf bleidleisio, cysylltwch â'ch swyddfa etholiadau lleol i weld pa help sydd ar gael. Gallwch hefyd ofyn i gael cydymaith gyda chi wrth i chi bleidleisio. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pam nad ydw i wedi derbyn fy ngherdyn pleidleisio?
Dylech gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol i weld os ydych ar y gofrestru etholiadol ai peidio â rhoi gwybod iddyn nhw nad ydych wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Gallwch bleidleisio hyd yn oed os nad oes gennych gerdyn pleidleisio, cyn belled â'ch bod chi ar y gofrestr etholiadol.
Sut ydw i'n cwblhau fy mhapur pleidleisio?
Bydd y wybodaeth hon ar gael gan y clerc pleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio.
Os dewisoch bleidleisio drwy'r post, bydd eich swyddfa cofrestru etholiadol yn rhoi'r wybodaeth hon yn eich pecyn pleidleisio.
Beth yw'r oriau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau nesaf?
Fel arfer mae'r oriau pleidleisio rhwng 7am a 10pm.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich cerdyn pleidleisio (a anfonir atoch cyn yr etholiad) i wneud yn siŵr nad yw'r amserau hyn wedi newid.
Gallwch hefyd gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol i gael y wybodaeth hon. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Bydda i dramor dros dro am ddiwrnod yr etholiadau. Sut alla i bleidleisio?
Os fyddwch chi dramor ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch wneud cais i un ai bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (cael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan).