Mae'r adran hon yn dweud wrthych sut mae pleidleisio drwy'r post yn gweithio.
Mae pleidleisio drwy'r post yn ffordd hawdd a chyfleus o bleidleisio os nad ydych yn gallu mynd i'r orsaf bleidleisio.
Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post
Yng Nghymru a Lloegr a'r Alban, dim ond etholwyr sydd wedi'u (neu a fydd wedi'u) cofrestru'n unigol fydd â hawl i wneud cais i bleidleisio drwy'r post.
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Wedi i chi gofrestru'n unigol bydd angen i chi lenwi ffurflen gais pleidleisio drwy'r post.
Lawrlwythwch y ffurflen i wneud cais i bleidleisio drwy'r post (PDF)
Wedi i chi lenwi'r ffurflen, bydd angen i chi ei hargraffu, llofnodi, a'i anfon yn ôl at eich swyddfa gofrestru etholiadol lleol.
Mae’r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer etholiadau ar Iau 5 Mai bellach wedi cau.
Pam fod angen i mi lofnodi'r ffurflen?
Mae angen i chi lofnodi'ch cais yn bersonol gan fod angen copi o'ch llofnod at ddibenion diogelwch pleidleisio ar y swyddfa gofrestru etholiadol. Mae hi ychydig yn llai cyfleus na chyflwyno ar-lein, ond mae'n helpu sicrhau diogelwch eich pleidlais ac fe'i defnyddir i fynd i'r afael â thwyll etholiadol.
Pwy all wneud cais am bleidlais bost?
Gall unrhyw un sydd wedi'u cofrestru'n unigol wneud cais am bleidlais bost. Does dim angen rheswm arnoch i bleidleisio drwy'r post.
Nid yw hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon – mae mwy o wybodaeth ar wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.
I ble gellir anfon fy mhleidlais bost?
Gellir anfon eich pleidlais bost i'ch cyfeiriad cartref neu unrhyw gyfeiriad arall a rowch.
Gellir anfon pleidleisiau post tramor, ond mae angen i chi ystyried p'un a bydd digon o amser i dderbyn a dychwelyd eich papur pleidleisio erbyn diwrnod yr etholiad.
Pryd fydda i'n derbyn fy mhapurau pleidleisio?
Dim ond ar ôl i'r dyddiad cau i fod yn ymgeisydd basio a bod y papurau pleidleisio wedi'u wedi'u cynhyrchu a'u hargraffu y gellir anfon pecynnau pleidleisio post allan. Cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol u gael mwy o wybodaeth ynghylch pryd caiff eich papurau pleidleisio post eu hanfon allan.
Wedi i chi dderbyn eich papur pleidleisio, marciwch eich papur pleidleisio a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei anfon yn ô l erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad neu'r refferendwm. Os fydd yn cyrraedd yn hwyrach na hyn, ni fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.
Pan fyddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio post
- Rhowch nhw mewn rhywle diogel
- Peidiwch â gadael i unrhyw un arall eu trin
- Gwnewch yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael lle gall rhywun eraill eu codi
Pan fyddwch am bleidleisio:
- Cwblhewch y papur pleidleisio yn gyfrinachol, ar eich pen eich hun
- Peidiwch â gadael i unrhyw un arall bleidleisio ar eich rhan
- Peidiwch â gadael i unrhyw un arall weld eich pleidlais
- Peidiwch â rhoi'r papur pleidleisio i unrhyw un arall
- Rhowch y papur pleidleisio yn yr amlen a'i selio eich hun
- Cwblhewch a llofnodwch y datganiad pleidleisio post
- Rhowch y datganiad pleidleisio post a'r amlen sy'n cynnwys eich papur pleidleisio yn yr amlen fwy o faint a'i selio.
Pan fyddwch yn dychwelyd eich pleidlais bost:
- Ewch ag ef i'r blwch postio eich hun, os gallwch chi
- Os na allwch wneud hynny, un ai rhowch ef i rywun yr ydych yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt i'w bostio ar eich rhan, neu ffoniwch eich swyddfa cofrestru etholiadol i ofyn a allant ei gasglu gennych
- Peidiwch â'i roi i ymgeisydd neu weithiwr plaid heblaw nad oes unrhyw ffordd arall yn ymarferol
- Peidiwch â'i adael lle gall rhywun arall ei godi
Cofiwch mai'ch pleidlais chi yw hon – cadwch hi i'ch hun!
Os oes unrhyw un yn ceisio'ch helpu yn erbyn eich ewyllys, neu'n eich gorfodi i roi eich pleidlais bost iddynt, dylech gysylltu â'r heddlu.
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.