Pleidleisio drwy ddirprwy

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth ar sut i fwrw'ch pleidlais drwy ddirprwy mewn etholiad neu refferendwm y DU.

Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu eich bod yn penodi rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan.

Gall pleidleisio drwy ddirprwy fod yn ddefnyddiol os ydych yn methu mynd i'r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio, er enghraifft os ydych yn mynd yn sâl neu os fyddwch chi dramor.

Gall fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych tramor mewn gwlad sy'n rhy bell i ddychwelyd pleidlais bost mewn da bryd ar gyfer yr etholiad (er enghraifft, os ydych yn y Lluoedd Arfog ac wedi'ch anfon tramor).


Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy

Llynedd, newidodd y ffordd yr ydym yn cofrestru i bleidleisio, ac os ydych am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ma'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru dan y system newydd.

I sicrhau eich bod wedi'ch cofrestru'n gywir, cysylltwch â'r awdurdod lleol ar gyfer y cyfeiriad yr ydych wedi cofrestru ynddo.

I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.I ddod o hyd i'w manylion cyswllt drwy roi y cod post perthnasol yn y panel 'Eich ardal leol'.

Hefyd, dim ond os yw'r person yr ydych am benodi fel dirprwy wedi (neu yn mynd i fod) wedi'u cofrestru yn unigol, y gallwch eu penodi fel dirprwy.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.

Wedi i chi gofrestru'n unigol, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais pleidleisio drwy ddirprwy.

Mae gwahanol ffurflenni yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Gweld ffurflen gais pleidlais drwy ddirprwy.

Mae’r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau ar Iau 5 Mai bellach wedi cau.


Alla i wneud cais am bleidlais ddirprwy?

Gall unrhyw un sydd wedi'u cofrestru'n unigol wneud cais am bleidlais ddirprwy.

Pan eich bod yn gwneud cais am bleidlais ddirprwy, mae'n rhaid i chi roi rheswm. Gallwch wneud cais am bleidlais ddirprwy os:

  • nad ydych yn gallu mynd i'r orsaf bleidleisio ar gyfer un etholiad yn benodol, er enghraifft eich bod chi i ffwrdd ar wyliau
  • oes gennych gyflwr corfforol sy'n golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio
  • yw eich cyflogaeth yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio
  • ydych yn mynychu cwrs addysgiadol sy'n golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio
  • ydych yn ddinesydd Prydeinig yn byw tramor
  • ydych yn Was y Goron neu'n aelod o Luoedd Arfog Ei Mawrhydi

Efallai bydd angen i chi gael rhywun i gefnogi eich cais i gadarnhau fod eich rheswm dros wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn ddilys. Darllenwch y nodiadau sy'n cyd-fynd â phob ffurflen i weld os oes angen i chi gael rhywun i gefnogi eich cais a phwy all wneud.


Pryd alla i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy?

Fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yw 5pm, chwech diwrnod gwaith cyn etholiad.

Beth os ydw i'n colli'r dyddiad cau ond methu mynd i'r orsaf bleidleisio?

Os oes gennych argyfwng meddygol ar ôl y dyddiad cau, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng os yw'r argyfwng hwn yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio yn bersonol.

Gallwch hefyd wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng os yw'ch galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth yn golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio, a'ch bod yn dod yn ymwybodol o hyn ar ôl y dyddiad cau.

Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.


Pwy all bleidleisio ar fy rhan?

Dim ond os yw'r person yr ydych am benodi fel eich dirprwy dros 18 ac, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban eu bod wedi (neu y byddant wedi) cofrestru'n unigol, y gallant fod yn ddirprwy i chi.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch pleidleisio drwy ddirprwy yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.

Ni allwch fod yn ddirprwy ar gyfer mwy na dau o bobl mewn unrhyw un etholiad neu refferendwm, heblaw eu bod yn berthynas agos.