Pleidleisio'n bersonol

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth ar sut i fwrw'ch pleidlais yn bersonol mewn etholiad neu refferendwm y DU.

Sut ydw i'n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio?

Dyma'n canllawiau cam wrth gam i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.

  1. Bydd y staff yn yr orsaf bleidleisio yn rhoi papur pleidleisio i chi yn rhestru'r ymgeiswyr y gallwch bleidleisio drostynt. Efallai y cewch fwy nag un papur pleidleisio os oes mwy nag un etholiad ar yr un diwrnod yn cael eu cynnal yn eich ardal chi.
  2. Ewch a'ch papur pleidleisio i fwth pleidleisio fel bod neb yn gallu gweld sut ydych chi'n pleidleisio Darllenwch y papur pleidleisio'n ofalus, bydd yn dweud wrthych sut i fwrw'ch pleidlais. Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth arall ar y papur neu efallai na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
  3. Marciwch eich papur pleidleisio yn unol â'r cyfarwyddiadau. Bydd pensil ar gael i chi wneud hyn, ond gallwch ddefnyddio eich pen neu'n pensil eich hun os dymunwch. 
  4. Os ydych yn gwneud camgymeriad ar eich papur pleidleisio, peidiwch â phoeni, cyn belled nad ydych wedi ei roi yn y blwch pleidleisio, rhowch wybod i'r staff gorsaf bleidleisio a gallant roi un yn ei le i chi. 
  5. Plygwch eich papur pleidleisio wedi'i gwblhau'n hanner, dangoswch y cefn i'r Swyddog Llywyddu ac yna rhowch ef yn y blwch pleidleisio – a dyna ni!

Angen cymorth yn yr orsaf bleidleisio?

Os oes angen cyngor arnoch chi, gofynnwch i'r staff yn yr orsaf bleidleisio – byddant yn gallu eich helpu chi.

Os oes gennych anabledd, gallwch ofyn i'r Swyddog Llywyddu am gymorth a gallant farcio'r papur pleidleisio ar eich rhan chi. Gallwch hefyd ofyn i rywun arall eich helpu chi (e.e. gweithiwr cymorth, cyn belled â'u bod yn berthynas neu'n etholwr cymwys ac nad ydynt wedi helpu mwy nag un person arall i bleidleisio eisoes).

Os oes gennych nam ar eich golwg, gallwch ofyn i weld papur pleidleisio print bras neu gallwch ofyn am declyn pleidleisio arbennig sy'n caniatáu i chi bleidleisio wrth eich hun yn gyfrinachol.


Rhifwyr

Ar y diwrnod pleidleisio mae gwirfoddolwyr ar gyfer ymgeiswyr, a elwir yn rhifwyr yn aros tu allan i orsafoedd pleidleisio ac yn gofyn i bleidleiswyr am y rhif ar eu cerdyn pleidleisio. Maent yn defnyddio'r wybodaeth hon i weld pwy sydd wedi pleidleisio fel eu bod yn gallu atgoffa'r rheiny sydd heb wneud, i bleidleisio.

Nid ydynt yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth swyddogol felly nid oes angen i chi roi unrhyw wybodaeth iddynt os nad ydych am wneud.

Os ydych yn pryderu ynghylch ymddygiad rhifwr, siaradwch â'r Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio.