Yn yr adran hon mae gwybodaeth ynghylch sut gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU.
Mae pleidleisio yn hawl ddemocrataidd i chi fel dinesydd y DU. Eich dewis chi yw arfer eich hawl neu beidio.
Os ydych am ddweud eich dweud mewn etholiad yn y DU, mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio.
Os nad ydych yn siŵr os ydych wedi'ch cofrestru eisoes, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio?
Mae’r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiadau ddydd Iau 5 Mai bellach wedi cau.
Mae modd cofrestru i bleidleisio ar-lein yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Mae cofrestru ar-lein yn cymryd ychydig funudau.
Oes angen i fi ail-gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE?
Bydd unrhyw un oedd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio (neu wedi cofrestru'n ddiweddar) cyn y dyddiad cau o 18 Ebrill ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ledled y DU ar 5 Mai wedi eu cofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE ac yn gallu bwrw eu pleidlais. Does dim angen i chi ailgofrestru.
Os yw eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft, os ydych yn symud cartref rhwng nawr a dyddiad cau cofrestru ar gyfer Refferendwm yr UE, yna bydd angen i chi ailgofrestru yn eich eiddo newydd.
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio ar gyfer y refferendwm yr UE yw Dydd Mawrth 7 Mehefin.
Ydw i wedi cofrestru i bleidleisio?
I ddarganfod os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. Ni all y Comisiwn Etholiadol ddweud os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio.
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Yma mae mwy o wybodaeth ynghylch sut i gofrestru i bleidleisio. Yma cewch hyd i fwy o fanylion am y gwahanol ffyrdd o bleidleisio.