Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am sut i fwrw'ch pleidlais drwy ddirprwy.
Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu os nad ydych yn gallu bwrw'ch pleidlais yn bersonol, gallwch gael rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan.
Ydw i'n gymwys i bleidleisio drwy ddirprwy?
Dim ond etholwyr sydd wedi'u (neu sy'n gwneud cais i) cofrestru'n unigol fydd â hawl i wneud cais i bleidleisio drwy'r dirprwy.
Hefyd, dim ond os yw'r person yr ydych am benodi fel dirprwy yn 18 ac wedi (neu yn mynd i fod) wedi'u cofrestru yn unigol, y gallwch eu penodi fel dirprwy.
Ni all person fod yn ddirprwy ar gyfer mwy na dau o bobl mewn unrhyw un etholiad neu refferendwm, heblaw eu bod yn berthynas agos.
Darganfod mwy am fwrw'ch pleidlais drwy ddirprwy
Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
Bydd angen i chi lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy. Mae ffurflenni gwahanol yn ddibynnol ar y rheswm bod angen pleidlais drwy ddirprwy arnoch.
Mae’r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau ar Iau 5 Mai bellach wedi cau.
Lawrlwythwch y ffurflen i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad penodol (PDF)
Wedi i chi lenwi'r ffurflen gywir, bydd angen i chi ei hargraffu, llofnodi, a'i anfon yn ôl at eich swyddfa gofrestru etholiadol lleol. Fel arfer, y dyddiad cau yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Anabledd
Os na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio oherwydd anabledd, gallwch benodi rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan.
Lawrlwytho ffurflen ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy oherwydd yn anabledd (PDF)
Addysgiadol
Os fyddwch chi i ffwrdd ar gwrs ar y diwrnod pleidleisio, gallwch benodi rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan.
Lawrlwythwch y ffurflen ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy os ydych i ffwrdd oherwydd addysg (PDF)
Cyflogaeth
Os fyddwch chi i ffwrdd oherwydd gwaith ar y diwrnod pleidleisio, gallwch benodi rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan.
Lawrlwythwch y ffurflen ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy os ydych i ffwrdd oherwydd gwaith (PDF)
Tramor
Os ydych yn byw tramor, gallwch benodi rhywun arall i bleidleisio mewn etholiad y DU ar eich cyfer.
Lawrlwythwch y ffurflen ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy os ydych yn byw tramor (PDF)
Gwas y Goron
Os ydych yn gweithio i ffwrdd i'r British Council neu fel Gwas y Goron, gallwch benodi rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan mewn etholiad y DU.
Lawrlwythwch y ffurflen ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy os ydych yn gweithio fel Gwas y Goron (PDF)
Lluoedd Arfog
Os ydych yn gwasanaethu tramor, gallwch benodi rhywun arall i bleidleisio mewn etholiad y DU ar eich cyfer.
Lawrlwythwch y ffurflen pleidleisio drwy ddirprwy os ydych yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog (PDF)
Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng
Mewn rhai amgylchiadau, pan fo gennych argyfwng sy'n golygu na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais.
Pleidlais Drwy Ddirprwy mewn Argyfwng oherwydd Anabledd
Os cewch chi argyfwng meddygol ar ôl 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng (hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad).
Lawrlwythwch y ffurflen ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng oherwydd anabledd (PDF).
Pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng oherwydd Galwedigaeth, Gwasanaeth neu Gyflogaeth
Os nad ydych yn gallu mynd i'r orsaf bleidleisio oherwydd eich galwedigaeth, gwasanaeth neu gyflogaeth, a'ch bod yn dod yn ymwybodol o hyn ar ôl 5pm 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais (hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais).