Ar y dudalen hon, gallwch weld:
- Pwy a all gofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog
- Sut i gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog
- Sut i bleidleisio fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog
- Sut i gael adnoddau i gynnal Diwrnodau Cofrestru Uned
Pwy a all gofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog?
Gallwch gofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog neu'n gymar neu'n bartner sifil i rywun yn y lluoedd arfog.
Yn yr Alban, mae plentyn sy'n 14 oed neu drosodd y mae ei riant neu warcheidwad yn aelod o Luoedd Arfog EM hefyd yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog. Rhaid i blant o'r fath fod yn byw yn yr Alban neu y byddent yn byw yn yr Alban pe na bai eu rhiant neu eu gwarcheidwad wedi'u lleoli dramor. Ni fyddant yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd yr Alban nac etholiadau llywodraeth leol nes eu bod yn 16 oed nac yn etholiadau Senedd y DU na Senedd Ewrop nes eu bod yn 18 oed.
Cofrestru i bleidleisio
Os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog, neu'n gymar neu'n bartner sifil i rywun yn y lluoedd arfog, gallwch gofrestru i bleidleisio naill ai fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog neu fel pleidleisiwr cyffredin.
Chi fydd yn penderfynu sut i gofrestru i bleidleisio a bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Cofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog
Os ydych wedi eich lleoli dramor, neu'n disgwyl cael eich anfon dramor yn ystod y flwyddyn nesaf, mae'n gwneud synnwyr i gofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog.
Mae hyn yn eich galluogi i fod yn gofrestredig mewn cyfeiriad sefydlog yn y DU hyd yn oed os byddwch yn symud o le i le.
Mae cofrestriad fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog yn para am bum mlynedd, felly unwaith y byddwch wedi cofrestru, ni ddylech orfod poeni amdano os byddwch yn brysur dramor. Gallwch ganslo eich cofrestriad fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog unrhyw bryd.
Yn yr Alban, rhaid i berson dan 18 oed sydd wedi cofrestru fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog am ei fod yn byw gyda rhiant neu warcheidwad sy'n aelod o Luoedd Arfog EM adnewyddu ei gofrestriad bob blwyddyn.
I gofrestru yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, gallwch gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr o'r lluoedd arfog ar-lein.
Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.
Cofrestru fel pleidleisiwr cyffredin
Os ydych wedi eich lleoli yn y DU ac yn annhebyg o newid cyfeiriad neu o gael eich anfon dramor yn ystod y flwyddyn nesaf, gallwch gofrestru fel pleidleisiwr cyffredin.
I gofrestru yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein.
Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.
Mae gan eich uned Swyddog Cofrestru Uned dynodedig a fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth a chyngor i chi. Gofynnwch i'ch swyddfa weinyddol am ei fanylion cyswllt.
Sut gallaf bleidleisio?
Beth os wyf dramor ar ddiwrnod yr etholiad?
Peidiwch â phoeni os ydych dramor ar adeg yr etholiad neu os oes gennych reswm arall pam na allwch bleidleisio yn bersonol ar y diwrnod - gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.
Y llynedd newidiodd y ffordd rydym yn cofrestru i bleidleisio, ac os hoffech bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy rhaid eich bod wedi cofrestru o dan y system newydd. Er mwyn cadarnhau eich bod wedi cofrestru'n gywir, cysylltwch ag awdurdod lleol y cyfeiriad rydych wedi eich cofrestru ar ei gyfer. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pleidleisio drwy'r post
Dim ond tua wythnos cyn diwrnod yr etholiad y gallwch anfon pleidleisiau post. Os ydych yn byw dramor, efallai y byddai'n well penodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan gan na fydd digon o amser efallai i'ch pleidlais post eich cyrraedd a chael ei dychwelyd cyn i'r cyfnod pleidleisio ddod i ben.
Rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy'r post
Pleidleisio drwy ddirprwy
Os ydych dramor neu os na allwch bleidleisio yn bersonol, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy (rhywun sy'n pleidleisio ar eich rhan).
Rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy
Sut i gael adnoddau i gynnal Diwrnodau Cofrestru Uned
Os ydych yn Swyddog Cofrestru Uned ac yn bwriadu cynnal Diwrnod Cofrestru Uned cyn yr etholiadau a gaiff eu cynnal ym mis Mai 2016, gallwch gael adnoddau amrywiol i'ch helpu ym mhecyn cymorth cofrestru y Lluoedd Arfog.
Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint i'w ddefnyddio ar y diwrnod, posteri y gellir eu lawrlwytho a ffurflenni y gellir eu hargraffu.
Lawrlwythwch ein pecyn Diwrnod Cofrestru Uned
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y pecyn cymorth hwn drwy e-bostio gwybodaeth@comisiwnetholiadol.org.uk