- Pwy all gofrestru fel pleidleisiwr tramor
- Sut i gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr tramor
- Sut i gofrestru fel pleidleisiwr tramor
Ym mha etholiadau a refferenda alla i bleidleisio?
Os ydych wedi'ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor, gallwch bleidleisio yn yr etholiadau canlynol yn y DU:
Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd
Bydd pleidleiswyr tramor cofrestredig yn gallu pleidleisio yn y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
Mi fydd y refferendwm yn cymryd lle ar Ddydd Iau 23 Mehefin 2016.
Dylai dinasyddion y DU sy'n byw dramor wneud cais i gofrestru i bleidleisio erbyn 16 Mai 2016 ac yna, unwaith y byddant wedi cofrestru, rhaid gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy er mwyn gallu pleidleisio o'r tu allan i'r DU.
Darllenwch fwy am Refferendwm yr UE
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i bleidleiswyr tramor yn Refferendwm yr UE
Pwy all gofrestru fel pleidleisiwr tramor?
Mae'n rhaid eich bod wedi eich cofrestru i bleidleisio yn y DU yn y 15 mlynedd diwethaf ac yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac etholiadau Senedd Ewrop.
Os oeddech yn rhy ifanc i gofrestru pan adawoch y DU, fe allwch gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr tramor. Gallwch wneud hyn os oedd eich rhiant neu'ch gwarcheidwad wedi'u cofrestru i bleidleisio yn y DU, cyn belled nad ydych wedi gadael y DU ers mwy na 15 mlynedd.
Cofrestru i bleidleisio
Os ydych am gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban gallwch gofrestru ar-lein unrhyw bryd yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Sut alla i bleidleisio?
Mae nifer o ffyrdd o bleidleisio yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol.
Llynedd, newidodd y ffordd yr ydym yn cofrestru i bleidleisio, ac os ydych am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ma'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru dan y system newydd. I sicrhau eich bod wedi'ch cofrestru'n gywir, cysylltwch â'r awdurdod lleol ar gyfer y cyfeiriad yr ydych wedi cofrestru ynddo.I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pleidleisio drwy'r post
Os ydych yn byw tramor gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Bydd angen i chi sicrhau fod gennych ddigon o amser i dderbyn a dychwelyd eich papurau pleidleisio erbyn y diwrnod pleidleisio. Os nad ydych yn credu y gallwch eu dychwelyd mewn pryd, efallai yr hoffech ystyried pleidleisio drwy ddirprwy.
I weld pryd mae pleidleisiau post yn cael eu hanfon allan, cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn y cyfeiriad lle'r ydych wedi cofrestru. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Os ydych yn byw tramor gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy. Mae hyn yn golygu gallwch benodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Mae'n rhaid i chi a'r person yr ydych yn penodi fel eich dirprwy fod wedi cofrestru o dan y system newydd.
Pleidleisio'n bersonol
Os ydych yn digwydd bod yn y DU ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio.
Fodd bynnag, os ydych wedi penodi dirprwy, gallwch bleidleisio'n bersonol dim ond os nad yw'ch dirprwy eisoes wedi pleidleisio ar eich rhan. Os oes gennych bleidlais bost, ni allwch gael papur pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, ond fe allwch roi eich papur pleidleisio wedi'i gwblhau yn eich gorsaf bleidleisio.