Symud cartref

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth ar gofrestru pobl i bleidleisio sydd ar fin symud cartref neu sydd wedi symud yn ddiweddar.

Peidiwch ag anghofio'ch dodrefn, eich anifeiliaid anwes...na'ch hawl i bleidleisio!

Felly os ydych newydd symud, bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto. Mae'n hynod o bwysig eich bod yn gwneud, neu efallai na fyddwch yn gallu pleidleisio.

Nawr eich bod wedi gosod yr oergell a diweddaru eich trwydded deledu, cymrwch ychydig funudau i gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd i wneud yn siŵr nad ydych chi'n colli allan. Yna gallwch chi fynd yn ôl i ddadbacio'ch bocsys.


Cofrestru i bleidleisio

Mae modd cofrestru i bleidleisio ar-lein yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.


Pam fod angen i mi gofio i gofrestru i bleidleisio pan fyddaf yn symud tŷ?

Caiff y gofrestr etholiadol ei chynnal gan swyddfeydd cofrestru etholiadol lleol - maent yn defnyddio'r gofrestr i roi papurau pleidleisio mewn etholiadau.

I wneud yn siŵr eich bod dal yn gymwys i bleidleisio, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cofrestru i bleidleisio pan fyddwch yn symud, hyd yn oed os ydych yn dal i fod o fewn yr un awdurdod lleol.  


Rwy newydd symud cartref – pryd allan i gofrestru i bleidleisio?

Gallwch gofrestru unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Gallwch ddefnyddio'r broses gofrestru ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich cyfeiriad blaenorol wrth gwblhau'r ffurflen ar-lein fel eich bod yn gallu cael eich tynnu oddi ar y gofrestru yn eich hen gyfeiriad.