Os nad yw pleidleisio'n bersonol yn eich gorsaf bleidleisio'n gyfleus i chi, gallwch ddewis pleidleisio drwy'r post.
Llynedd, newidodd y ffordd yr ydym yn cofrestru i bleidleisio, ac os ydych am bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy ma'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru dan y system newydd.
I sicrhau eich bod wedi'ch cofrestru'n gywir, cysylltwch â'r awdurdod lleol ar gyfer y cyfeiriad yr ydych wedi cofrestru ynddo. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Gwneud cais i bleidleisio drwy'r post
Lawrlwythwch y ffurflen i wneud cais i bleidleisio drwy'r post (PDF)
Wedi i chi lenwi'r ffurflen, bydd angen i chi ei hargraffu, llofnodi, a'i anfon yn ôl at eich swyddfa gofrestru etholiadol lleol.
Mae’r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer etholiadau ar Iau 5 Mai bellach wedi cau.
Darganfod mwy am fwrw'ch pleidlais drwy'r post
Pleidleiswyr tramor
Gellir anfon pleidleisiau post tramor, ond mae angen i chi ystyried p'un a bydd digon o amser i dderbyn a dychwelyd eich papur pleidleisio erbyn diwrnod yr etholiad.