Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am ein hymgyrch #CofrestruCyfaill.
Mae ein hymgyrch cymdeithasol #CofrestruCyfaill yn bwriadu ysbrydoli pobl ifanc i bleidleisio cyn etholiadau mis Mai 2016 yng Nghymru.
Mynnwch fod eich ffrindiau yn gwneud gwahaniaeth
Enwebwch eich cyfeillion i gofrestru i bleidleisio fel y gall pob un ohonoch leisio barn a chael eich clywed.
Mae etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn ym Mai 2016 ac mae llawer o bobl ifanc heb gofrestru i bleidleisio o hyd. Os nad ydych wedi cofrestru, ni chewch bleidleisio, ac mae'n bosibl y caiff barn cenhedlaeth gyfan ei hanwybyddu. Diflas.
Mae pleidleisio yn ffordd wych o newid y byd o'ch amgylch. Wrth gwrs y gallwch ddweud eich dweud drwy ddiweddaru'ch statws ond, yn syml, mae'ch pleidlais yn fwy pwerus na hynny. Felly gadewch i ni ddod o hyd i'r rhai sy'n llusgo eu traed o hyd.

Mae'n syml. Yn gyntaf, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio, rhowch lun o'ch croes bleidleisio (cewch fod yn greadigol a chreu un o unrhyw beth y mynnoch) a'i rhannu gyda'r hashnod #CofrestruCyfaill a neges debyg i hon:
Rwyf wedi cofrestru i bleidleisio ac yn barod i leisio fy marn. Eich tro chi yw hi nawr [tagiwch eich ffrindiau yma] Cofrestrwch heddiw: gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Rhowch lun o'ch croes bleidleisio ar-lein ac enwebwch ffrindiau i gofrestru nesaf. Gyda'n gilydd fe godwn lais. #CofrestruCyfaill
Rwyf wedi cofrestru i bleidleisio. Dy dro di [neges drydar at eich ffrindiau] Cofrestra nawr: gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Rho lun o dy groes, enweba ffrind. #CofrestruCyfaill
Enwebwch gymaint o ffrindiau ag yr hoffech oherwydd gyda'n gilydd rydym yn fwy pwerus. Drwy gael eich ffrindiau i gofrestru bydd mwy o bobl ifanc yn cael pwer.
Lluniau croes pleidleisio
Dymr rai o'n delweddau croesau pleidleisio. Rydym yn edrych ymlaen at weld eich rhai chi!
| | |
| | ![]() |
![]() | ![]() | ![]() |
![]() | ![]() | ![]() |






