Ar y dudalen hon mae gwybodaeth ar gofrestru i bleidleisio i fyfyrwyr.
Dylai eich llais gael ei glywed. Gallai cofrestru i bleidleisio fod yn gam cyntaf i chi ddylanwadu ar ddyfodol eich gwlad.
Cofrestru i bleidleisio
Os ydych yn fyfyriwr, efallai y gallwch gofrestru yn eich cyfeiriad cartref ac amser tymor.
Os nad ydych yn siŵr os ydych wedi'ch cofrestru eisoes, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol.
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Mae modd cofrestru i bleidleisio ar-lein yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Alla i bleidleisio ddwywaith - adref ac yn y brifysgol?
Mae'n drosedd pleidleisio dwywaith mewn etholiad cyffredinol y DU .
Hyd yn oed os ydych wedi'ch cofrestru mewn dwy ardal - adref ac yn yr un brifysgol - gallwch bleidleisio mewn un mewn etholiad cyffredinol.
Fodd bynnag, os yw'ch cyfeiriadu cartref a phrifysgol mewn dwy ardal awdurdod leol gwahanol, gallwch bleidleisio mewn etholiadau lleol yn y ddwy ardal.