Oedran
Yng Nghymru a Lloegr gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn 17 mlwydd oed (ac mewn rhai achosion os ydych yn 16 oed). Fodd bynnag, dim ond pan fyddwch yn 18 y gallwch bleidleisio.
Yn yr Alban gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych yn 15 mlwydd oed (ac mewn rhai achosion os ydych yn 14 oed). Gallwch chi bleidleisio mewn etholiadau lleol ac i Senedd yr Alban pan ydych chi'n 16 ac etholiadau i Senedd y DU ac Ewrop pan ydych yn 18.
Cenedligrwydd
Rydych yn gymwys i gofrestru i bleidleisio os ydych:
- yn ddinesydd Prydeinig neu
- Dinesydd yr UE yn byw yn y DU
- Dinesydd cymwys y Gymanwlad yn byw yn y DU
Dinasyddion cymwys y Gymanwlad yw rhywun sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arnynt.
Mwy ynghylch cofrestru i bleidleisio
Ym mha etholiadau alla i bleidleisio?
Oedran
Yng Nghymru a Lloegr mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio i bleidleisio.
Yn yr Alban mae'n rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio i bleidleisio mewn etholiadau lleol ac etholiadau i Senedd yr Alban Mae'n rhaid i chi fod yn 18 i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU a Senedd Ewrop.
Dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad, Tiriogaethau Tramor Prydeinig a Dibynwledydd Prydeinig y Goron
Gall dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a chymwys y Gymanwlad sy'n byw yn y DU bleidleisio ym mhob etholiad sy'n cynnwys yr ardal y maent yn byw ynddi.
Darllen mwy ynghylch pleidleisiau'r dyfodol yn y DU
Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
Mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (nad ydynt yn ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon, Cyprus neu Malta) sy'n byw yn y gwledydd, rhanbarthau neu ardaloedd perthnasol y DU yn gymwys i bleidleisio yn:
- Etholiadau Senedd Ewrop
- Etholiadau cyngor lleol
- Etholiadau Maer a Chynulliad Llundain
- Etholiadau Senedd yr Alban
- Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Darllen mwy ynghylch pleidleisiau'r dyfodol yn y DU
Nodwch nad yw dinasyddion yr UE (nad ydynt yn ddinasyddion Gweriniaeth Iwerddon, Cyprus neu Malta) yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio yn etholiadau'r DU?
Nid ydych yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU os...
- Nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr UE neu ddinesydd cymwys y Gymanwlad
- Ydych yn berson euogfarnedig sydd yn y ddalfa o ganlyniad i'ch dedfryd, ag eithrio dirmyg llys (ond gall carcharorion ar remand, carcharorion nad ydynt wedi'u cael yn euog a charcharorion dinesig bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
- Ydych wedi eich cael yn euog o fewn y pum mlynedd blaenorol o arferion llwgr neu anghyfreithlon mewn perthynas ag etholiad