Pam ddylwn i gofrestru i bleidleisio?

Yn yr adran hon mae rhai o'n prif resymau pam ddylech gofrestru i bleidleisio.

Os ydych am ddweud eich dweud, mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio. Er nid oes llawer o bobl yn meddwl am gofrestru i bleidleisio tu allan i adeg etholiad.

Dyma rai o'n prif resymau pam ddylech gofrestru i bleidleisio.


1. Os nad ydych yn cofrestru, ni allwch bleidleisio!

Os nad ydych yn cofrestru, ni allwch bleidleisio - mae mor syml â hynny.

I bleidleisio mewn unrhyw etholiad y DU, mae'n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol. Mae cofrestru'n hawdd.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban gallwch gofrestru ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan y Swyddfa Etholiadol ar gyfer Gogledd Iwerddon.


2. Mae pleidleisio yn rhai llais i chi o ran pwy sy'n eich cynrychioli

Mae gallu pleidleisio yn rhoi llais i chi ar bwy sy'n eich cynrychioli chi yn eich cyngor lleol, Senedd y DU ac yn Ewrop. Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, mae bod wedi'ch cofrestru yn rhoi llais i chi o ran pwy sy'n eich cynrychioli yno hefyd.

Mewn unrhyw etholiad yn eich ardal bydd un o'r ymgeiswyr yn cael eu dewis i'ch cynrychioli p'un a eich bod yn pleidleisio ai peidio. Os ydych wedi'ch cofrestru, bydd gennych gyfle i ddweud eich dweud ar bwy sy'n eich cynrychioli drwy bleidleisio.

Mae rhai pobl yn ei chael hi'n hawdd cwyno pan eu bod yn anghytuno gyda gwleidyddol, ond os nad ydych yn cofrestru na phleidleisio, ni fyddwch yn cael dweud eich dweud.


3. Eich hawl chi yw pleidleisio

Mae pobl ym mhob cwr o'r byd wedi marw'n ymladd am yr hawl i bleidleisio ac i fod yn rhan o ddemocratiaeth - drwy gofrestru i bleidleisio byddwch yn dangos eich bod yn credu fod yr hawl honno yn bwysig.

Yn y DU, llai na chanrif yn ôl, lladdwyd pobl yn ystod eu brwydr i gael y bleidlais i fenywod. Yn Ne Affrica, nid oedd pobl dduon yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf hyd nes ddiwedd yr apartheid yn 1994. Heddiw, gwadir yr hawl i bleidleisio i nifer o bobl ledled y byd.


4. Gall etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, ac os nad ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.

Gall etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, ac os nad ydych wedi'ch cofrestru, ni fyddwch yn gallu pleidleisio.

Er enghraifft, gall etholiad cyffredinol Senedd y DU gael ei galw mor hwyr â 17 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad, felly peidiwch â'i gadael hi'n rhyw hwyr - cofrestrwch heddiw i wneud yn siŵr eich bod yn cael dweud eich dweud.


5. Mae'n rhoi'r hawl i chi ddweud eich dweud am faterion pwysig sy'n effeithio arnoch chi.

Popeth o ffyrdd ac ailgylchu yn eich ardal chi i addysg a newid yn yr hinsawdd - efallai eich bod chi'n credu nad ydych chi am bleidleisio nawr, ond os oes rhywbeth yn codi yr ydych am leisio barn amdano, os ydych chi ar y gofrestru, bydd cyfle gyda chi bleidleisio arno. Cofiwch, nid yw cofrestru i bleidleisio yn golygu fod yn rhaid i chi wneud, mae'n golygu eich bod chi'n gallu os dymunwch.


6. Mae'n hawdd!

Ni fydd cofrestru i bleidleisio yn cymryd llawer o amser.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban gallwch gofrestru ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Bydd hi'n cymryd llai o amser na darllen y dudalen hon!

Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan y Swyddfa Etholiadol ar gyfer Gogledd Iwerddon i lawrlwytho ffurflen.