Refferendwm yr UE

Ar y dudalen hon cewch hyd i wybodaeth am Refferendwm yr UE.

Ar 23 Mehefin 2016, bydd refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd.


Beth yw diben y refferendwm?

Mae refferendwm yn gofyn i chi bleidleisio ar gwestiwn.

Ar gyfer y refferendwm hwn, y cwestiwn yw:

A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?


A alla i bleidleisio?

Gallwch bleidleisio yn y refferendwm yma os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU, yn 18 oed neu drosodd ar 23 Mehefin 2016 ac:

  • yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig sy'n byw yn y DU, neu
  • yn ddinesydd o'r Gymanwlad sy'n byw yn y DU sydd â chaniatâd i aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd arnoch i aros yn y DU
  • yn ddinesydd Prydeinig sy'n byw dramor sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf

Cliciwch yma i weld y rhestr lawn o wledydd yr Undeb Ewropeaidd, gwledydd y Gymanwlad, Tiriogaethau Tramor Prydeinig a Dibynwledydd Prydeinig y Goron (PDF)


Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio?

Os ydych am ddweud eich dweud yn Refferendwm yr UE, mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio.

Mae modd cofrestru i bleidleisio ar-lein yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Mae cofrestru ar-lein yn cymryd ychydig funudau.

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig yn byw tramor, gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein yn yr un modd.

Oes angen i fi ail-gofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE?

Bydd unrhyw un oedd eisoes wedi cofrestru i bleidleisio (neu wedi cofrestru'n ddiweddar) cyn y dyddiad cau o 18 Ebrill ar gyfer etholiadau sy'n cael eu cynnal ledled y DU ar 5 Mai wedi eu cofrestru i bleidleisio yn Refferendwm yr UE ac yn gallu bwrw eu pleidlais. Does dim angen i chi ailgofrestru.

Os yw eich amgylchiadau yn newid, er enghraifft, os ydych yn symud cartref rhwng nawr a dyddiad cau cofrestru ar gyfer Refferendwm yr UE, yna bydd angen i chi ailgofrestru yn eich eiddo newydd.


Ydw i wedi cofrestru i bleidleisio?

I ddarganfod os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol.

Ni all y Comisiwn Etholiadol ddweud os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio.

I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig yn byw tramor bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa cofrestru etholiadol ar gyfer y cyfeiriad yr oeddech wedi cofrestru ddiwethaf yn y DU.


Sut ydw i'n pleidleisio?

Mae tair ffordd i bleidleisio:

1. Yn eich gorsaf bleidleisio yn bersonol

Byddwch yn cael cerdyn pleidleisio sy'n dweud wrthych ble mae eich gorsaf bleidleisio. Does dim angen eich cerdyn pleidleisio arnoch i bleidleisio ac os byddwch yn ei golli neu os na fyddwch yn ei dderbyn, gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i gael gwybod ble mae eich gorsaf bleidleisio. Byddwch hefyd yn gallu gweld sut i ddod o hyd i leoliad eich gorsaf bleidleisio yn yr adran 'Eich ardal chi' ar y dudalen hon yn agosach at y refferendwm.

Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar 23 Mehefin 2016.

2. Drwy'r post

Er mwyn gwneud cais i bleidleisio drwy'r post, dylech gwblhau ffurflen gais pleidlais bost a'i hanfon i'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol i gyrraedd erbyn 5pm ar 8 Mehefin 2016. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.

Lawrlwythwch y ffurflen i wneud cais i bleidleisio drwy'r post (PDF)

Byddwch yn cael eich papur pleidleisio drwy'r post. Gellir anfon papur pleidleisio dramor, ond bydd angen i chi ystyried p'un a fydd gennych amser i'w dderbyn a'i ddychwelyd er mwyn iddo gyrraedd yn ôl erbyn 10pm ar 23 Mehefin 2016.

Darganfod mwy am fwrw'ch pleidlais drwy'r post

3. Drwy ddirprwy

Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn golygu eich bod yn penodi rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan.

Er mwyn gwneud cais i bleidleisio fel hyn, dylech gwblhau ffurflen gais a'i hanfon i'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol i gyrraedd erbyn 5pm ar 15 Mehefin 2016. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.

Gweld ffurflen gais pleidlais drwy ddirprwy

Pan fyddwch yn gwneud cais i bleidleisio fel hyn, mae'n rhaid i chi nodi pam na allwch bleidleisio yn bersonol. Rhaid i'ch dirprwy fod wedi cofrestru i bleidleisio ac yn gymwys i bleidleisio yn y refferendwm. Bydd eich dirprwy yn pleidleisio ar eich rhan a bydd angen i chi ddweud wrtho sut rydych am bleidleisio.

Darganfod mwy am fwrw'ch pleidlais drwy ddirprwy