Bydd etholiadau nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal ddydd Iau 5 Mai 2016.
Darllenwch ein canllaw i bleidleiswyr ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu am fwy o wybodaeth.
Gallwch hefyd lawrlwytho fformatau amgen o’n canllaw gwybodaeth i bleidleiswyr yma.
Cofrestru i bleidleisio
Mae’r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Iau 5 Mai bellach wedi cau.
Os nad ydych yn siŵr os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadau lleol. Byddan nhw'n gallu dweud wrthych.
Gallwch ddod o hyd i'w manylion cyswllt drwy roi eich cod post yn y panel 'Eich ardal leol' ar y dudalen hon.
Pwy all bleidleisio?
I bleidleisio mewn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae'n i chi fod yn:
- yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y pleidleisio
- yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd yn preswylio yng Nghymru
- ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio
Beth mae'r Cynulliad yn ei wneud?
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli pobl Cymru.
Mae gan y Cynulliad rym i wneud penderfyniadau a phasio deddfau ar faterion datganoledig.
Darganfod mwy am rymoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Sut ydw i'n pleidleisio?
Mae etholiadau i Gynulliad Cymru yn defnyddio'r system aelod ychwanegol i ethol 60 o Aelodau Cynulliad (ACau). Mae Cymru wedi ei rhannu'n 40 etholaeth, mae pob un yn ethol un AC, a phum rhanbarth mwy o faint sy'n ethol pedwar AC yr un. Byddwch yn cael dau bapur pleidleisio, papur pleidleisio etholaeth a rhanbarth.
- Ar y papur pleidleisio etholaeth byddwch yn pleidleisio dros un ymgeisydd yr ydych am iddynt gynrychioli eich etholaeth.
- Ar y papur pleidleisio rhanbarthol, rydych yn dewis rhestr plaid neu ymgeiswyr annibynnol i gynrychioli'ch rhanbarth.
Darganfod mwy am sut mae'r system bleidleisio hon yn gweithio