Bydd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal nesaf yng Nghymru a Lloegr ddydd Iau 5 Mai 2016.
Llyfryn Gwybodaeth i bleidleiswyr Cymru
Os ydych yng Nghymru, darllenwch ein canllaw i bleidleiswyr ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu am fwy o wybodaeth.
Cofrestru i bleidleisio
Mae’r dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio ar gyfer yr etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar Iau 5 Mai bellach wedi cau.
Os nad ydych yn siŵr os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadau lleol. Byddan nhw'n gallu dweud wrthych.
I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol rhowch eich cod post yn y blwch Eich ardal leol ar ein hafan.
Pwy all bleidleisio?
I bleidleisio mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae'n rhaid i chi fod:
- yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y pleidleisio
- yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd
- yn breswylydd yn y DU
- ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio
Beth mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gwneud?
Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am sicrhau bod y Prif Gwnstabl a'r heddlu yn bodloni gofynion y cyhoedd.
Maent yn goruchwylio sut mae'r heddlu'n mynd i'r afael â throsedd yn eich ardal a sicrhau bod yr heddlu yn darparu gwasanaeth dda. Darganfod mwy am Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Sut ydw i'n pleidleisio?
Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal mewn 41 llu heddlu yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio Llundain). Mae gan bob ardal un Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn defnyddio'r system pleidlais ychwanegol.
Bydd gan eich papur pleidleisio ddwy golofn. Gallwch bleidleisio dros ddewis cyntaf ac ail ddewis pwy ydych am ennill.
Darganfod mwy am sut mae'r system bleidleisio hon yn gweithio.
Sut fydda i'n gwybod pwy alla i bleidleisio drostynt?
Mae manylion ymgeiswyr Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar wefan Dewis Fy Nghomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.