Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am gynghorau lleol gan gynnwys:
- beth maen nhw'n gwneud
- y gwahanol fathau o gynghorau lleol
- sut a phryd y cânt eu hethol
Beth mae cynghorau lleol yn gwneud?
Mae cynghorau yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau lleol.
Mae eich cynrychiolwyr etholedig, neu gynghorwyr, hefyd yn eich cynrychioli chi ar lefel lleol - gelwir hyn yn llywodraeth leol.
Yn dibynnu ar le'r ydych yn byw, mae eich cyngor yn gyfrifol am rai neu bob un o'r meysydd canlynol:
- Tai cyngor
- Gwasanaethau addysgiadol
- Cofrestru etholiadol
- Iechyd yr amgylchedd
- Cyfleusterau hamdden ac adloniant
- Lyfrgelloedd
- Cynllunio lleol
- Trafnidiaeth leol
- Parciau a mannau cyhoeddus
- Rheoleiddio busnesau lleol
- Ffyrdd a throedffyrdd
- Gwasanaethau cymdeithasol
- Gwastraff ac ailgylchu
Pa fath o gyngor sydd gyda fi?
Mae gwahanol fathau o gynghorau yn y DU ac mae'r math o gyngor yn dibynnu ar ble'r ydych yn byw.
Cynghorau Bwrdeistref Llundain neu Ddosbarth Metropolitan
Awdurdodau unedig
Gogledd Iwerddon
Cynghorau Sir a Dosbarth
| Cyngor sir | Cyngor dosbarth |
| Gwasanaethau addysgiadol | Cofrestru etholiadol |
| Lyfrgelloedd | Iechyd yr amgylchedd |
| Gwasanaethau cymdeithasol | Tai cyngor |
| Strydoedd a ffyrdd | Cyfleusterau hamdden ac adloniant |
| Gwaredu gwastraff | Cynllunio lleol |
| Casglu gwastraff |
Yn Lloegr, mae gan rhai trefi a bwrdeistrefi Llundain eu maer etholedig eu hunain hefyd.
Cynghorau plwyf, tref a chymuned
Yn ogystal â chynghorau lleol, mae gan y DU hefyd oddeutu 10,000 o gynghorau plwyf, tref a chymuned. Mae'r rhain yn ffurfio lefel mwyaf lleol llywodraeth leol.
Mae cynghorau cymuned yng Nghymru a'r Alban a chynghorau plwyf yn Lloegr yn gyfrifol am bethau megis:
- rhandiroedd
- arosfannau bws
- meysydd parcio
- tai bach cyhoeddus
- mynwentydd
- goleuo troedffyrdd
- biniau sbwriel
- neuaddau lleol a chanolfannau cymunedol
- parciau a phyllau bach lleol
- clociau cyhoeddus
- cofebion rhyfel
Sut maen nhw'n cael eu hethol?
Pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad lleol, byddwch yn derbyn papur pleidleisio yn rhestru'r holl ymgeiswyr sy'n sefyll i fod yn gynghorydd yn eich ardal chi.
Pryd maen nhw'n cael eu hethol?
Pleidleisio yn ôl traeanau
Os yw'ch cyngor yn pleidleisio yn ôl traeanau mae hyn yn golygu bod traean o'r holl gynghorwyr yn cael eu hethol bob blwyddyn mewn cylch o bedair blynedd (gyda dim etholiadau ar y bedwaredd flwyddyn).
Pleidleisio yn ôl haneri
Os yw'ch cyngor yn ethol yn ôl haneri, mae hanner y cynghorwyr yn cael eu hethol bob dwy flynedd.
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?
I bleidleisio mewn etholiad cyngor lleol, mae'n rhaid bod person wedi'u cofrestru i bleidleisio, a:
- bod yn 18 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio yng Nghymru a Lloegr; neu'n 16 oed neu'n hŷn ar y diwrnod pleidleisio yn yr Alban
- yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd
- preswylydd yn y DU
- ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio
Ni all y canlynol bleidleisio mewn etholiad cyngor lleol:
- unrhyw un heblaw dinasyddion Prydeinig, cymwys y Gymanwlad neu'r Undeb Ewropeaidd
- person euogfarnedig sydd yn y ddalfa o ganlyniad i'w dedfryd, ag eithrio dirmyg llys (ond gall carcharorion ar remand, carcharorion nad ydynt wedi'u cael yn euog a charcharorion dinesg bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
- unrhyw un sydd wedi'u cael yn euog o fewn y pum mlynedd blaenorol o arferion llwgr neu anghyrfreithlon mewn perthynas ag etholiad
Darganfod mwy o wybodaeth o ran pwy sy'n gymwys i bleidleisio