- Beth maen nhw'n gwneud?
- Ble maen nhw'n cael eu hethol?
- Sut maen nhw'n cael eu hethol?
- Pryd maen nhw'n cael eu hethol?
Beth mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gwneud?
Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn rôl newydd ddaeth yn lle eich awdurdod heddlu lleol yn 2012.
Mae'r Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am sicrhau bod y Prif Gwnstabl a'r heddlu yn bodloni gofynion y cyhoedd.
Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn goruchwylio sut mae'r heddlu'n mynd i'r afael â throsedd yn eu hardal a sicrhau bod yr heddlu yn darparu gwasanaeth da.
Mae rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cynnwys:
- cyfarfod yn rheolaid â'r cyhoedd i wrando ar eu barn am heddlua
- creu cynllun heddlu a throseddu sy'n gosod blaenoriaethau heddlua lleol
- penderfynnu sut fydd y gyllideb yn cael ei gwario
- penodi Prof Gwnstabliaid a'u diswyddo os oes gofyn
Darganfod mwy am rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Ble caiff Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu eu hethol?
Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynal mewn 41 llu heddlu yng Nghymru a Lloegr (ag eithrio Llundain). Mae gan bob ardal un Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Sut mae'n nhw'n cael eu hethol?
Pryd mae'n nhw'n cael eu hethol?
Bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a etholwyd ym mis Tachwedd 2012 yn weithredol am dair blynedd a hanner.
Bydd yr etholiadau nesaf yn cael eu cynnal ar 5 Mai 2016.
Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?
I bleidleisio mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae'n rhaid fod person wedi'u cofrestru i bleidleisio, a:
- yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y pleidleisio
- Yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd yr Undeb Ewropeaidd
- Preswylydd yn y DU
- Ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio
Ni all y canlynol bleidleisio mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu:
- Unrhyw un heblaw dinaysddion Prydeinig, cymwys y Gymanwlad neu'r Undeb Ewropeaidd
- Person euogfarnedig sydd yn y ddalfa o ganlyniad i'w dedfryd, ag eithrio dirmyg llys (ond gall carcharorion ar remand, carcharorion nad ydynt wedi'u cael yn euog a charcharorion dinesg bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
- Unrhyw un sydd wedi'u cael yn euog o fewn y pum mlynedd blaenorol o arferion llwgr neu anghyrfreithlon mewn perthynas ag etholiad
Darganfod mwy o wybodaeth o ran pwy sy'n gymwys i bleidleisio