Senedd y DU

Ar y dudalen hon cewch wybod mwy am y Senedd y DU, gan gynnwys:

  • Beth mae'n gwneud?
  • Sut a phryd gaiff ei ethol?
  • Bth yw ei gyfansoddiad?

Beth mae Senedd y DU yn ei wneud? 

Mae Senedd y DU yn cynrychioli pobl y Deyrnas Unedig. Mae'n gwneud penderfyniadau ac yn pasio cyfreithiau am nifer o faterion sy'n effeithio arnoch. 


Beth yw ei gyfansoddiad? 

Mae Senedd y DU wedi'i wneud o ddau 'Dŷ' - Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.

Tŷ'r Cyffredin

Mae gan Dŷ'r Cyffredin 650 Aelod Seneddol (ASau). Mae pob AS yn cynrychioli rhan o'r DU a elwir yn 'etholaeth' neu'n 'sedd'. Mae ASau yn trafod materion gwleidyddol cyfredol a chynigion ar gyfer cyfreithiau newydd.

Darganfod mwy am Dŷ'r Cyffredin

Tŷ'r Arglwyddi

Mae gan Dŷ'r Arglwyddi oddeutu 700 o aelodau anetholedig sy'n craffu ar waith Tŷ'r Cyffredin.

Cyn 1999, roedd Tŷ'r Arglwydd yn bennaf yn cynnwys arglwyddi etifeddol oedd yn etifeddu eu teitl drwy eu teulu. Ar ôl 1999, mae'r mwyafrif o Arglwyddi bellach yn 'arglwyddi oes'. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu penodi am eu gwybodaeth neu eu profiad mewn maes arbennig, ond nid ydynt yn pasio'u teitl ymlaen.

Darganfod mwy am Dŷ'r Arglwyddi


Sut mae'n cael ei ethol?

Etholir Senedd y DU mewn etholiad cyffredinol y DU.

Mewn etholiad cyffredinol mae gennych un bleidlais i ddewis ymgeisydd i gynrychioli eich etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae mwyafrif yr ymgeiswyr o bleidiau gwleidyddol, ond gellid hefyd cael ymgeiswyr annibynnol.

Ar ôl etholiad cyffredinol, bydd y Frenhines yn gofyn i arweinydd y blaid gyda'r mwyaf o ASau i fod yn Brif Weinidog a ffurfio llywodraeth fydd yn rhedeg y wlad. Bydd arweinydd y blaid gyda'r ail nifer fwyaf o ASau yn dod yn Arweinydd yr Wrthblaid.

Darganfod mwy am bleidleisio mewn etholiad cyffredinol y DU


Pryd caiff ei ethol?

Mae'n rhaid cynnal etholiad cyffredinol unwaith bob pum mlynedd ar ddydd Iau cyntaf Mai. Bydd etholiad cyffredinol nesaf y DU yn 2020.

Os hoffech wybod mwy ynghylch amseriad etholiadau cyffredinol y DU, efallai yr hoffech ddarllen ynghylch Deddf Seneddau Cyfnod Penodedig – y gyfraith sy'n golygu bod etholiadau cyffredinol yn cael eu cynnal unwaith bob pum mlynedd.


Pwy sy'n gymwys i bleidleisio?

I bleidleisio mewn etholiad Sedd y DU, mae'n rhaid bod person wedi'u cofrestru i bleidleisio, a:

  • yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y pleidleisio
  • Yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys y Gymanwlad neu'n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon
  • Ddim yn destun unrhyw anghymhwysedd cyfreithiol i bleidleisio

Ni all y canlynol bleidleisio mewn etholiad Senedd y DU:

  • Aelodau Tŷ'r Arglwyddi
  • Dinasyddion yr UE (heblaw o'r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Cyprus a Malta) sy'n byw yn y DU
  • Unrhyw un heblaw dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a dinasyddion cymwys y Gymanwlad
  • Person euogfarnedig sydd yn y ddalfa o ganlyniad i'w dedfryd, ag eithrio dirmyg llys (ond gall carcharorion ar remand, carcharorion nad ydynt wedi'u cael yn euog a charcharorion dinesg bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol)
  • Unrhyw un sydd wedi'u cael yn euog o fewn y pum mlynedd blaenorol o arferion llwgr neu anghyrfreithlon mewn perthynas ag etholiad

Darganfod mwy o wybodaeth o ran pwy sy'n gymwys i bleidleisio