Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio fel etholwr o dramor,
ni chewch chi bleidleisio mewn etholiadau lleol neu etholiadau
cyrff datganoledig (fel Senedd Yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol
Cymru neu Awdurdod Llundain Fawr). Fodd bynnag, mewn
etholiadau eraill, gall pleidleiswyr o dramor ddewis pleidleisio
drwy’r post neu drwy ddirprwy.
Dim ond tuag wythnos cyn diwrnod yr etholiad mae pleidleisiau
drwy’r post yn cael eu hanfon, a byd angen i chi ystyried p’un ai a
oes gennych chi ddigon o amser i lenwi a dychwelyd y ffurflen mewn
amser. Efallai y byddai’n well apwyntio dirprwy i bleidleisio
ar eich rhan.