Registering to vote

 

  • Ydw i’n cofrestru unwaith neu bob blwyddyn?

    Dylech gofrestru rhwng mis Awst a mis Thachwedd pob blwyddyn pan fydd y cyngor lleol yn anfon ffurflen gofrestru i’ch cartref. Enw hyn yw’r ‘canfasio blynyddol’. Gallwch gofrestru ar adegau eraill o’r flwyddyn trwy lenwi ffurflen gofrestru.

    Dylech chi gysylltu â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol am fwy o fanylion. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa gofrestru etholiadol lleol yn y panel ‘Gwneud pethau’n Lleol’ – Rhowch eich côd post i ddod o hyd i’r swyddfa briodol. 

  • Will my details be given to other organisations?

    There are two versions of the electoral register – the full version and the edited version. The full register is used only for elections, preventing and detecting crime and checking applications for credit. The edited register is available for general sale and can be used by other organisations for commercial activities such as marketing.

    Your name and address will appear on the full register which is available for inspection, under supervision, at your local council's offices. You can choose on your registration form whether or not to appear on the edited register.

  • Beth yw’r gofrestr etholiadol?

    Y gofrestr etholiadol yw rhestr o enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Mae pob swyddfa cofrestru etholiadol lleol yn cynnal y gofrestr etholiadol ar gyfer ardal ei hunain. Mae dwy fersiwn o'r gofrestr etholiadol ar gael - y fersiwn lawn a'r fersiwn olygedig. Caiff y gofrestr lawn ei defnyddio’n unig ar gyfer etholiadau, atal a datgelu trosedd a chadarnhau ceisiadau am gredyd. Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol, ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata.

    Bydd eich enw a’ch cyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr lawn, ond gallwch ddewis ar eich ffurflen gofrestru os ydych am ymddangos ar y gofrestr olygedig ai beidio.

  • Ydw i wedi cofrestru i bleidleisio?i

    Gall eich swyddfa cofrestru etholiadol lleol ddweud wrthych chi. O.N:  Nid yw’r Comisiwn Etholiadol yn gallu dweud wrthych chi os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, mae rhaid i chi gysylltu â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol.  Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa gofrestru etholiadol lleol yn y panel ‘Gwneud pethau’n Lleol’ - Rhowch eich côd post i ddod o hyd i’r swyddfa briodol. 

    Os ydych wedi llenwi’r ffurflen gofrestru canfasio blynyddol a ddaeth drwy eich drws rhwng mis Awst a mis Thachwedd, dylech fod ar y gofrestr.

    Os ydych yn symud tŷ neu’n newid eich enw, dylech chi gofrestru eto.  Mae’r gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru pob mis rhwng mis Rhagfyr a mis Medi.

  • Sut mae cofrestru i bleidleisio?

    Yn ystod mis Awst neu fis Medi, dylech fod wedi derbyn ffurflen ganfasio flynyddol sy’n gofyn am etholwyr.  Rhaid i chi sicrhau bod enwau pawb cymwys sy’n byw yn eich cyfeiriad ar y ffurflen, a chroesi allan unrhyw un na ddylai fod arni. I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. 

    Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa gofrestru etholiadol lleol yn y panel ‘Gwneud pethau’n Lleol’ – Rhowch eich côd post i ddod o hyd i’r swyddfa briodol. 

    Mae’r gofrestr etholiadol yn cael ei diweddaru pob mis rhwng mis Rhagfyr a mis Medi.  Os ydych yn symud tŷ neu’n newid eich enw, dylech chi gofrestru eto.  Mae ffurflenni cofrestru ar gael ar y wefan hon.

  • Allaf i gofrestru i bleidleisio dros y ffôn?

    Na, ond gallwch chi ffonio eich swyddfa cofrestru etholiadol lleol i ofyn iddynt anfon ffurflen gofrestru atoch chi. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa gofrestru etholiadol lleol yn y panel ‘Gwneud pethau’n Lleol’ – Rhowch eich côd post i ddod o hyd i’r swyddfa briodol. 

    Bydd rhai swyddfeydd cofrestru etholiadol yn caniatáu i chi adnewyddu eich manylion cofrestru dros y ffôn yn ystod y canfasio blynyddol, cyn belled â nad yw eich manylion wedi newid.  Dylid cynnwys y wybodaeth angenrheidiol gyda’ch ffurflen ganfasio, ond gallwch chi gysylltu â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol i ofyn am y gwasanaeth yma.

  • Oes raid i mi fynd i rywle i gofrestru i bleidleisio?

    Nac oes.  Yr unig beth sydd raid i chi wneud yw llenwi ffurflen gofrestru etholiadol a’i dychwelyd i’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol.

  • Pam fod angen i mi gofrestru?

    Mae angen i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio yn holl etholiadau a refferenda’r DU. Nid ydych yn cael eich cofrestru’n awtomatig hyd yn oed os ydych yn talu treth y cyngor   Os ydych yn derbyn cais am eich gwybodaeth cofrestru gan eich swyddfa cofrestru etholiadol lleol, yna rydych chi’n rhwym yn gyfreithiol i ymateb.  Os nad ydych chi’n ymateb, neu os ydych chi’n rhoi gwybodaeth ffug, gallwch chi gael dirwy o £1,000. 

    Os nad ydych wedi cofrestru, gall effeithio ar eich statws credyd hefyd.

  • Pwy sy’n cael cofrestru i bleidleisio?

    Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych::

    • yn 16 oed neu drosodd (ond ni allwch bleidleisio nes byddwch yn 18 oed)
    • yn ddinesydd y D.U, Gweriniaeth Iwerddon neu’n ddinesydd y Gymanwlad
    • yn ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y D.U.
    • yn ddinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Brydeinig Dramor sy’n byw yn y D.U.
    • I fod yn gymwys, mae’n rhaid i ddinasyddion y Gymanwlad fyw yn y D.U. a naill ai gyda gwyliau ar ôl, neu heb fod angen gwyliau o’r fath.
  • Rwy’n fyfyriwr ac yn ansicr ble ddylwn i gofrestru i bleidleisio?

    Mae gan fyfyrwyr hawl i gofrestru yng nghyfeiriad eu cartref a chyfeiriad eu prifysgol, ond dim ond unwaith y cawn nhw bleidleisio yn yr un etholiad ar gyfer siambr neu swydd.  Er enghraifft, fe allech chi fod wedi cael eich cofrestru mewn dau o Fwrdeistrefi Llundain.  Gallwch bleidleisio unwaith yn y ddau etholiad bwrdeistrefol, gan eu bod nhw’n etholiadau mewn dwy neuadd y dref wahanol, ond yn etholiadau Maer Llundain a’r Cynulliad, dim ond unwaith fyddwch chi’n cael pleidleisio, gan mai etholiadau ar gyfer yr un corff neu’r un swydd ydyn nhw.

    Y swyddog cofrestru etholiadol yr ydych chi’n ceisio pleidleisio gydag ef/hi, sy’n cael gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch cofrestru.  Dylech chi gysylltu â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol am fwy o fanylion. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa gofrestru etholiadol lleol yn y panel ‘Gwneud pethau’n Lleol’ - Rhowch eich côd post i ddod o hyd i’r swyddfa briodol. 

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod