Cwestiynau Cyffredin – Pleidleiswyr o’r Lluoedd Arfog

 

  • Rwyf yn y Lluoedd Arfog yn byw yn y DU. Sut mae cofrestru i bleidleisio?

    Gall milwyr a’u gwŷr, gwragedd, neu bartneriaid sifil ddewis gwneud datganiad Gwasanaeth, neu gallant ddewis cofrestru i bleidleisio yn y ffordd draddodiadol.

  • Pa ddulliau o bleidleisio sydd ar gael i mi?

    Gall milwyr a’u gwŷr, gwragedd, neu bartneriaid sifil bleidleisio mewn person neu gallant ddewis pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.

    Dim ond wythnos cyn diwrnod yr etholiad y bydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu hanfon. Os ydych yn byw dramor, gall fod yn well i chi benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan, rhag ofn na fydd digon o amser i’ch pleidlais drwy’r post eich cyrraedd a chael ei hanfon yn ôl cyn i’r bleidlais gau.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod