Cwestiynau Cyffredin - Pleidleisio drwy ddirprwy

 

  • Pwy all wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy?

    Ni allwch wneud cais am bleidlais hirdymor trwy ddirprwy heb fod â rheswm penodol fel anabledd neu os ydych chi dramor.

    I bleidleisio trwy ddirprwy mewn dim ond un etholiad, rhaid i chi gael rheswm, er enghraifft y byddwch ar wyliau neu i ffwrdd oherwydd gwaith.

    Os ydych yn mynd yn analluog neu’n sâl yn ddirybudd, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy am resymau meddygol hyd at 5yh ar ddiwrnod y bleidlais.

    I lawrlwytho ffurflen gais i bleidleisio drwy ddirprwy, ewch i'n tudalen ar sut i bleidleisio drwy ddirprwy sy'n addas i'ch sefyllfa chi

  • Mae perthynas / cyfaill wedi mynd yn analluog / sâl yn ddirybudd. Allaf i bleidleisio ar ei ran / rhan?

    Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng am resymau meddygol hyd at 5yh ar y diwrnod pleidleisio.

    I lawrlwytho ffurflen gais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng, ewch i'n tudalen ar sut i bleidleisio drwy ddirprwy.

  • Sut wyf yn cael pleidlais drwy ddirprwy?

    Gallwch wneud cais am ddirprwy newydd hyd at 6 diwrnod gwaith cyn etholiad, a gallwch newid pleidlais bresennol trwy ddirprwy ar unrhyw adeg hyd at 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Os ydych yn mynd yn analluog neu’n sâl yn ddirybudd, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy am resymau meddygol hyd at y diwrnod pleidleisio. Rhaid derbyn holl geisiadau cyn 5yh ar y diwrnod a nodwyd.

    I lawrlwytho ffurflen gais i bleidleisio drwy ddirprwy, ewch i'n tudalen ar sut i bleidleisio drwy ddirprwy.

  • Pwy all fod yn ddirprwy i mi?

    Gall pawb sy’n gymwys i bleidleisio eu hunain yn yr etholiad fod yn ddirprwy i chi. Fodd bynnag, ni allwch fod yn ddirprwy i fwy na dau o bobl nad ydynt yn aelodau o’ch teulu agos. Gall eich dirprwy wneud cais i bleidleisio drwy’r post ar eich rhan.

    I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol

  • Cefais fy ngwneud yn ddirprwy dros rywun. Beth sydd angen i mi wneud?

    Mae’n hawdd iawn pleidleisio fel dirprwy rhywun. Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio drwy ddirprwy arbennig gyda manylion lle ddylech fynd i bleidleisio. Os na allwch fynd i’r man pleidleisio, gallwch bleidleisio drwy’r post. Rhaid i chi wneud cais am bleidlais drwy’r post fel hyn cyn 5yh ar yr 11eg diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Cysylltwch â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol i gael gwybod sut i wneud hyn.

    Os ydych yn mynd i’r man pleidleisio, dywedwch wrth y staff yno eich bod yn pleidleisio fel dirprwy, a byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud. Peidiwch ag anghofio mynd â’ch cerdyn pleidleisio drwy ddirprwy - bydd hyn yn ei gwneud yn haws i staff y man pleidleisio gael hyd i’r papur pleidleisio cywir.

  • Beth sy'n digwydd ar ôl i mi wneud cais?

    • Rhaid i’ch dirprwy fynd i’ch man pleidleisio lleol i bleidleisio. Os na all eich dirprwy fynd i’r man pleidleisio, gall wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy’r post. Gall eich dirprwy wneud cais i wneud hyn hyd at 11 diwrnod cyn diwrnod yr etholiad. Gall eich swyddfa cofrestru etholiadol roi mwy o fanylion i chi am hyn.
    • Bydd eich dirprwy'n derbyn cerdyn pleidleisio drwy ddirprwy, sy'n dweud wrthyn nhw ble a phryd i bleidleisio.
    • Rhaid i chi ddweud wrth eich dirprwy sut ydych eisiau pleidleisio, er enghraifft, i ba ymgeisydd neu i ba blaid.
    • Os byddwch yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch ddal i bleidleisio mewn person, cyn belled â bod eich dirprwy heb wneud hynny eisoes, nac wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post ar eich rhan.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod