Cwestiynau Cyffredin - Pleidleisio mewn Person

 

  • Sut wyf yn dod o hyd i leoliad fy ngorsaf pleidleisio?

    Bydd lleoliad eich gorsaf pleidleisio wedi ei nodi ar y cerdyn pleidleisio fydd yn cael ei ddosbarthu i chi cyn y diwrnod pleidleisio. Fel arall, cysylltwch â'ch swyddfa etholiadau lleol.

  • Byddaf dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiadau. Sut allaf i bleidleisio?

    Os ydych dramor ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch wneud cais i bleidleisio naill ai drwy’r post neu trwy ddirprwy (cael rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan). Gallwch chi ddarganfod mwy drwy ymweld â'n tudalen sut i bleidleisio.

  • Sut wyf yn llenwi'r papur pleidleisio?

    Bydd y clerc pleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio yn rhoi'r wybodaeth yma i chi.
    Os dewisoch chi bleidleisio drwy'r post, bydd eich swyddfa etholiadau lleol yn rhoi'r wybodaeth yma i chi yn eich pecyn pleidleisio.

  • Beth yw'r oriau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau nesaf?

    7yb-10yh yw'r oriau pleidleisio ar gyfer pob etholiad. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar eich cerdyn pleidleisio (sy'n cael ei ddosbarthu i chi cyn yr etholiad), i wirio nad yw'r amseroedd hyn wedi newid. Gallwch chi hefyd ffonio eich swyddfa etholiadol leol i wirio.

  • Pam na dderbyniais fy ngherdyn pleidleisio?

    Er nad oes gennych chi gerdyn pleidleisio, gallwch chi barhau i bleidleisio, cyn belled â'ch bod chi ar y gofrestr etholiadol. Dylech chi wirio gyda'ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol i weld p'un ai a ydych chi ar y gofrestr etholiadol ai beidio, a sôn am y ffaith nad ydych chi wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio.

  • A gaf i gymorth/lifft i fynd i'r orsaf bleidleisio?

    Os ydych chi'n anabl ag angen lifft i fynd i'r orsaf bleidleisio, cysylltwch â'ch swyddfa etholiadol leol i weld pa gymorth sydd ar gael. Hefyd, gallwch chi wneud cais i gael cyfaill gyda chi pan rydych chi'n pleidleisio.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod