General election FAQ
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth
ynghylch cofrestru a phleidleisio yn etholiad cyffredinol Senedd y
DU 2010. Nid yw rhywfaint o’r wybodaeth yn gymwys yng Ngogledd
Iwerddon - darllenwch yn ofalus.
Ydw i wedi cofrestru i
bleidleisio?
Nid yw’r Comisiwn Etholiadol yn gallu rhoi
gwybod i chi os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio - mae’n
rhaid i chi gysylltu â’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol.
Gallwch chi gael gafael ar y manylion cyswllt ar gyfer eich swyddfa
cofrestru etholiadol lleol yn y panel ‘Eich ardal leol’ drwy roi
eich côd post yn y panel.
Sylwer mai dydd Mawrth, 20 Ebrill oedd y
dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio ar gyfer yr etholiadau
sydd i ddod.
Os ydych chi wedi llenwi’r ffurflen gofrestru
canfasio blynyddol a ddaeth drwy eich drws rhwng mis Awst a mis
Thachwedd, fe ddylech chi fod ar y gofrestr.
Pam bod dyddiad cau ar gyfer
cofrestru?
Gallwch chi gofrestru drwy’r broses cofrestru
parhaus unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn a hefyd, yn ystod y
canfasio blynyddol sy’n cael ei gynnal yn ystod tymor yr
hydref. Fodd bynnag, mae amserlen bendant ar gyfer pob
etholiad cyffredinol a lleol yn y DU, sydd wedi’i gosod mewn
cyfraith. O dan yr amserlen hon, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad
yw’r dyddiad cau i gofrestru. Ni ellir diwygio’r dyddiad cau
hwn am unrhyw reswm.
Nid wyf wedi derbyn fy ngherdyn
pleidleisio/Rwyf wedi derbyn fy ngherdyn pleidleisio ond mae fy enw
yn anghywir.
Gallwch chi ddal i bleidleisio hyd yn oed os
nad oes gennych chi gerdyn pleidleisio, cyn belled ag eich bod ar y
gofrestr etholiadol. Dylech chi gysylltu â’ch swyddfa cofrestru
etholiadol lleol i weld p’un ai a ydych chi ar y gofrestr
etholiadol neu beidio, ac i sôn am y ffaith nad ydych chi wedi
derbyn eich cerdyn pleidleisio.
Os ydych chi wedi derbyn eich cerdyn
pleidleisio a bod eich enw wedi newid neu wedi cael ei sillafu’n
anghywir, dylech chi ddal i fedru pleidleisio yn yr orsaf
bleidleisio. Does dim angen i chi fynd â’ch cerdyn
pleidleisio i’r orsaf bleidleisio, ond efallai y byddai’n fwy
rhwydd i staff yr orsaf bleidleisio i’ch adnabod chi os ewch chi ag
un gyda chi. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhaid i chi fynd â
Cherdyn Adnabod gyda chi i bleidleisio: gweler ein tudalen ar bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon am
ragor o fanylion.
Sut wyf yn dod o hyd i fy ngorsaf
bleidleisio?
Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio,
bydd lleoliad eich gorsaf pleidleisio wedi ei nodi ar y cerdyn
pleidleisio fydd yn cael ei ddosbarthu i chi. Cysylltwch â'ch
swyddfa etholiadol leol am ragor o fanylion. Gellir dod o hyd i
ragor o wybodaeth ynghylch pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar
ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn aml
ynghylch pleidleisio mewn person.
Pa ddarpariaeth sydd ar gael i bobl
anabl?
Mae templedi pleidleisio cyffyrddadwy a
fersiynau print bras o bapurau pleidleisio ar gael ymhob gorsaf
bleidleisio, Gallwch chi hefyd fynd â chyfaill gyda chi i’ch helpu
chi, neu gallwch chi ofyn i'r swyddog llywyddu yn yr orsaf
bleidleisio am gymorth. Cysylltwch â’ch swyddfa etholiadol
leol i gael rhagor o wybodaeth ynghylch hygyrchedd yn eich gorsaf
bleidleisio. Am ragor o wybodaeth ynghylch hygyrchedd y
broses etholiadol, gweler ein tudalen
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ynghylch Hygyrchedd.
Mae gennyf argyfwng meddygol/rwyf
dramor ac nid wyf yn gallu mynd i fy ngorsaf bleidleisio ar 6
Mai
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru a’n gwybod
na fyddwch chi’n gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio ar 6 Mai,
gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy hyd at 5yh ar
ddydd Mawrth, 27 Ebrill, oes gennych chi reswm penodol.
Gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy
ddirprwy ar gyfer argyfyngau meddygol yn unig hyd
at 5yh ar ddiwrnod yr etholiad. Noder y bydd yn rhaid i chi
gael nodyn gan eich meddyg i gefnogi eich cais.
Am ragor o wybodaeth ynghylch pleidleisio drwy
ddirprwy, gweler ein tudalen Cwestiynau a
Ofynnir yn Aml ynghylch pleidleisio drwy ddirprwy.
Pam nad wyf wedi derbyn fy mhapur
pleidleisio drwy’r post?
Dylech chi dderbyn eich papur pleidleisio tuag
wythnos cyn yr etholiad. Os nad yw’n cyrraedd, gallwch chi
gael papur pleidleisio newydd mewn person gan eich Swyddog
Canlyniadau hyd at 5yh ar ddiwrnod yr etholiad. Yn Lloegr ac yng
Nghymru, gellir gwneud cais am bapurau pleidleisio newydd 4 diwrnod
gwaith cyn diwrnod yr etholiad, ac yn Yr Alban, 3 diwrnod
gwaith cyn diwrnod yr etholiad. Cysylltwch â’ch Swyddog
Cofrestru Etholiadol am fanylion. Am ragor o wybodaeth
ynghylch pleidleisio drwy’r post, gweler ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ynghylch
pleidleisio drwy’r post.
Ym mhle allaf i gael gwybodaeth
ynghylch ymgeiswyr?
Nid oes unrhyw ffynhonnell swyddogol, felly
dylech chi ymweld â gwefannau ymgeiswyr, gwefannau’r pleidiau, neu
ysgrifennu at y blaid neu’r ymgeisydd. .
Am ragor o wybodaeth ynghylch etholiadau ac
ymgeiswyr, gweler ein tudalen Cwestiynau a
Ofynnir yn Aml ynghylch etholiadau sy’n cael eu cynnal yn eich
ardal.
Pryd fydd y canlyniadau’n cael eu
cyhoeddi?
Bydd hyn yn dibynnu ar yr ardaloedd unigol a’r
swyddogion canlyniadau. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd, mae
pleidleisiau’n cael eu cyfrif ar nos Iau, ar ôl diwedd y cyfnod
pleidleisio, ond mewn rhai ardaloedd, bydd pleidleisiau’n cael eu
cyfrif y bore wedyn. Os hoffech chi ddarganfod beth sy’n digwydd yn
eich ardal chi, cysylltwch â’ch swyddfa etholiadol leol. Gallwch
chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch amseriad y cyfrifon ar y
dudalen etholiadau ar
ein prif wefan.
Rwyf wedi derbyn gwybodaeth gan blaid
wleidyddol/ymgeisydd ac rwyf eisiau gwneud cwyn
Mae hysbysebion gwleidyddol a deunydd
cyhoeddusrwydd ar yr ymgyrch yn glaf dan nifer o gyfyngiadau o dan
gyfraith etholiadol. Er enghraifft, mae’n rhaid i bob deunydd
etholiadol gael argraffnod gydag enw llawn a chyfeiriad llawn
argraffydd a hyrwyddwr y deunydd. Yn ogystal, ni ddylai
deunyddiau gynnwys datganiadau ffug ynghylch cymeriad personol neu
ymddygiad ymgeisydd.
Hefyd, mae deunydd ymgyrchu’n glaf dan
gyfraith sifil cyffredinol ar atebolrwydd a chyfraith trosedd, a ni
ddylent gynnwys sylwadau neu ddatganiadau difenwol. Mae
sylwadau difenwol ar bapur yn cael eu hystyried yn enllib, a gallai
hyn arwain at weithred gyfreithiol. Mae rheolau ynghylch
hawlfraint hefyd yn gymwys i ddeunydd etholiadol. Yn ogystal,
o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1996, mae’n drosedd cyhoeddi a
dosbarthu deunydd bygythiol, amharchus neu sarhaus sydd â’r bwriad
o annog casineb hiliol.
Yn unol â chyfraith etholiadol, nid oes gan y
Comisiwn Etholiadol unrhyw hawl i fonitro deunydd ymgyrchu unigol
pleidiau neu i archwilio unrhyw honiadau neu droseddau. Rydym yn
argymell eich bod chi’n cyfeirio unrhyw gwyn yn uniongyrchol at y
blaid dan sylw. Fel arall, os ydych chi’n credu y cyflawnwyd
trosedd gyda’r deunyddiau y derbynioch chi, bydd angen i chi fynd â
hyn at sylw’r heddlu.