Cofrestru i bleidleisio

Cofrestru i bleidleisio


Mae rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio yn etholiadau a refferenda’r DU. Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut i gofrestru i bleidleisio.

Mae rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio yn etholiadau a refferenda’r DU. Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut i gofrestru i bleidleisio. Os ydych chi eisoes yn gwybod sut i bleidleisio, ac eisiau gwneud hyn, cliciwch ar cofrestru i bleidleisio ac fe awn ni â chi drwy’r broses.

A oeddech chi’n gwybod nad ydych chi wedi eich cofrestru’n awtomatig i bleidleisio, hyd yn oed os ydych chi’n talu treth y cyngor? Mae llawer o chwedlau a chamddealltwriaethau ynghylch cofrestru i bleidleisio - gallwch chi edrych ar rai o’r rhain, gyda’r gwir, ar ein tudalen chwedlau cyffredin. Hefyd, gallwch chi edrych ar rai o’r rhesymau pam ddylech chi gofrestru i bleidleisio.

Rwyf eisiau cofrestru i bleidleisio’r funud hon!


Dim problem - yr unig beth sydd rhaid i chi wneud yw clicio ar cofrestru i bleidleisio ac fe awn ni â chi drwy’r broses. Unwaith rydych chi wedi cwblhau’r ffurflen, bydd angen i chi ei hargraffu, ei llofnodi a’i dychwelyd hi i’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. Gallwch chi gael gafael ar eu cyfeiriad a’u manylion cyswllt drwy roi eich côd post ar y safle yma.

Mae angen i chi lofnodi’ch ffurflen gofrestru’n bersonol, gan fod y swyddfa gofrestru etholiadol angen copi o’ch llofnod er diogelwch y bleidlais. Rydym yn ymwybodol ei fod tipyn yn llai cyfleus na’i hanfon ar-lein, ond mae’n helpu i sicrhau diogelwch eich cofrestriad.

Beth yw’r gofrestr etholiadol?


Y gofrestr etholiadol yw rhestr o enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Mae dwy fersiwn o'r gofrestr etholiadol ar gael - y fersiwn lawn a'r fersiwn olygedig.

Mae’r rhestr lawn yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio ac mae hi’n cael ei diweddaru pob mis. Nid oes gennych chi ddewis o ran eich manylion yn cael eu rhoi ar y gofrestr hon. Mae copi’n cael ei gadw yn eich cyngor lleol (a’r swyddfa cofrestru etholiadol yn yr Alban). Mae unrhyw un yn gallu edrych arni a gwneud nodiadau, ond dim ond ar gyfer pwrpasau arbennig mae copïau’n gallu cael eu darparu. Y prif ddefnydd o’r gofrestr lawn yw dangos pwy sy’n cael pleidleisio mewn etholiadau a refferenda. Mae asiantaethau cyfeirio credyd yn cael ei defnyddio, ond dim ond i wirio eich enw a’ch cyfeiriad os ydych chi’n gwneud cais am gredyd. Mae hi’n gallu cael ei defnyddio hefyd ar gyfer pwrpasau gorfodi’r gyfraith.

Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol ac mae modd ei defnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas. Mae’r gofrestr olygedig yn cael ei chadw ar wahân i’r gofrestr lawn, ac mae modd i unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata. Gallwch chi ddewis peidio â bod ar y gofrestr olygedig drwy roi tic yn y bocs priodol ar y ffurflen ganfasio flynyddol neu’r ffurflen cofrestru treigl.

Pwy sy’n cael cofrestru i bleidleisio?


Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych:

  • yn 16 oed neu drosodd ac
  • yn ddinesydd Prydeinig
  • neu yn ddinesydd Iwerddon, Y Gymanwlad neu Uned Ewropeaidd sy’n byw yn y D.U.

Os ydych chi’n 16 neu’n 17 mlwydd oed, yr unig adeg fyddwch chi’n cael cofrestru yw os fyddwch chi’n 18 mlwydd oed yn ystod bywyd y gofrestr etholiadol. Mae cofrestr eleni’n parau o 1 Rhagfyr 2007 i 30 Tachwedd 2008. Ni chewch chi bleidleisio nes eich bod chi’n 18 mlwydd oed.

Gweler rhestr lawn o wledydd cymwys y Gymanwlad a’r Undeb Ewropeaidd.

I gymhwyso, mae’n rhaid i ddinasyddion y Gymanwlad fyw yn y D.U. a naill ai gyda gwyliau ar ôl, neu heb fod angen gwyliau o’r fath. Mae’r diffiniad o 'Ddinesydd y Gymanwlad' yn cynnwys dinasyddion Tiriogaethau Dibynnol Prydain a Thiriogaethau Tramor Prydain.

Pryd gaf i gofrestru i bleidleiso?


Gallwch chi gofrestru drwy gydol y flwyddyn gan fod y gofrestr yn cael ei diweddaru bob mis. Mae hyn yn ddefnyddiol os byddwch yn symud cartref ac eisiau cofrestru yn eich cyfeiriad newydd. Cliciwch ar cofrestru i bleidleisio ac fe awn ni â chi drwy’r broses.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain Fawr yn cofrestru rhwng mis Medi a mis Tachwedd pob blwyddyn, pan fydd y cyngor lleol yn dosbarthu ffurflen cofrestru’n syth i’ch cartref. Caiff hyn ei alw’r canfasio blynyddol, a’r unig beth sydd rhaid i chi wneud yw dychwelyd y ffurflen i’r swyddfa gofrestru etholiadol lleol i wneud yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru.

Yng Ngogledd Iwerddon, nid yw’r canfasio blynyddol yn bodoli mwyach - unwaith rydych chi wedi cofrestru, yr unig beth sydd rhaid i chi wneud yw diweddaru eich cofrestriad os yw eich manylion yn newid neu os ydych yn symud tŷ. Os ydych chi angen gwneud hyn, gallwn ni fynd â chi drwy’r broses - yr unig beth sydd rhaid gwneud yw clicio ar cofrestru i bleidleisio

Ydw i wedi cofrestru i bleidleisio’n barod?


Yn anffodus, nid yw’r Comisiwn Etholiadol yn gallu gwirio os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, gan fod cofrestru etholiadol yn cael ei reoli’n lleol gan swyddfeydd cofrestru etholiadol mewn awdurdodau lleol. (yn yr Alban, efallai fod swyddfa ar wahân). Er mwyn gwirio eich bod chi wedi cofrestru, bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer eich ardal - gallwch chi gael gafael ar eu manylion cyswllt drwy roi eich côd post ar y wefan hon.

Mwy o gwestiynau ynghylch cofrestru i bleidleisio? Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod