Pleidleisio drwy’r post

Mae pleidleisio drwy’r post yn ffordd rhwydd a chyfleus o bleidleisio os nad ydych chi’n gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio. Mae’r adran hon yn dweud wrthych chi sut mae pleidleisio drwy’r post yn gweithio.

I bleidleisio drwy’r post, mae rhaid i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy’r post nawr - fe awn ni â chi drwy’r broses. Ar ôl cwblhau’r ffurflen, bydd angen i chi ei hargraffu hi, ei llofnodi hi a’i hanfon yn ôl i’ch swyddfa cofrestru etholiadol lleol. Gallwch chi gael gafael ar eu cyfeiriad a’u manylion cyswllt eraill drwy roi eich côd post ar y safle yma.

Mae angen i chi lofnodi’ch ffurflen gofrestru’n bersonol, gan fod y swyddfa gofrestru etholiadol angen copi o’ch llofnod er diogelwch y bleidlais. Rydym yn ymwybodol ei fod tipyn yn llai cyfleus na’i hanfon ar-lein, ond mae’n helpu i sicrhau diogelwch eich cofrestriad.

Pwy sy’n cael gwneud cais am bleidlais bost?


Gall unrhyw un sydd dros 18 mlwydd oed wneud cais am bleidlais bost. Nid oes angen rheswm arnoch chi i bleidleisio drwy’r post.

I ble all fy mhleidlais bost gael ei hanfon?


Gallai pleidlais bost gael ei hanfon i gyfeiriad eich cartref neu i unrhyw gyfeiriad arall sy’n cael ei roi i ni. Gellir anfon pleidleisiau post dramor, ond bydd angen i chi ystyried a yw hyn yn rhoi digon o amser i chi dderbyn a dychwelyd eich papur pleidleisio erbyn diwrnod yr etholiad.

Pryd fyddaf yn derbyn fy mhapurau pleidleisio?


Fel arfer, caiff pleidleisiau post eu hanfon tuag wythnos cyn diwrnod yr etholiad. Unwaith rydych chi wedi’i derbyn, marciwch eich pleidlais ar y papur pleidleisio a gwnewch yn siŵr eich bod yn ei anfon yn ôl fel ei bod yn cyrraedd erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio (sef 10yh ar ddiwrnod yr etholiad). Os yw’n cyrraedd yn hwyrach na hyn, ni fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.

Pan rydych chi’n derbyn eich papurau pleidleisio drwy’r post:


  • Rhowch nhw’n rhywle diogel
  • Peidiwch â gadael i unrhyw un arall gyffwrdd ynddyn nhw
  • Gwnewch yn siŵr nad ydynt yn cael eu gadael yn rhywle ble gall pobl eraill eu pigo nhw fyny

Pan rydych chi eisiau pleidleisio:


  • Cwblhewch eich papur pleidleisio’n gyfrinachol, ar eich pen eich hun.
  • Peidiwch â gadael i unrhyw un arall bleidleisio drosoch chi.
  • Peidiwch â gadael i neb arall weld eich pleidlais
  • Peidiwch â rhoi’r papur pleidleisio i unrhyw un arall.
  • Rhowch y papur pleidleisio yn yr amlen, a seliwch ef eich hun.
  • Llenwch a llofnodwch y datganiad pleidleisio drwy’r post.
  • Rhowch y datganiad pleidleisio drwy’r post a’r amlen sy’n cynnwys eich papur pleidleisio i mewn i’r amlen fwy a’i selio.

Pan rydych chi’n dychwelyd eich pleidlais bost:


  • Ewch a hi i’r orsaf bost eich hun, os ydych chi’n gallu
  • Os nad ydych chi’n gallu gwneud hynny, rhowch hi i rywun rydych chi’n adnabod ac yn ymddiried ynddynt i’w phostio i chi, neu ffoniwch eich swyddfa cofrestru etholiadol lleol, i ofyn a allan nhw ei chasglu gennych chi.
  • Peidiwch â’i rhoi i ymgeisydd neu i rywun sy’n gweithio i blaid, oni bai nad oes unrhyw ffordd arall yn ymarferol.
  • Peidiwch â’i gadael ble gall rhywun arall ei phigo i fyny

Cofiwch mai eich pleidlais chi yw hon - felly cadwch hi i chi eich hun


Os fydd unrhyw un yn ceisio eich helpu chi yn erbyn eich ewyllys, neu’n eich gorfodi chi i roi eich pleidlais bost iddyn nhw, dylech chi gysylltu â’r heddlu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, ffoniwch eich swyddfa cofrestru etholiadol lleol - gallwch chi gael eu manylion cyswllt ar y safle yma drwy roi eich côd post.

Mwy o gwestiynau ynghylch pleidleisio drwy’r post? Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.

Rhannwch y dudalen hon

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* Wrth ddewis "Ewch", rydych yn derbyn ein telerau ac amodau

Gwybodaeth etholiadol

Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i gynnal etholiadau yn eich ardal chi.

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod