Mewn gorsaf bleidleisio

Mae rhan fwyaf o bobl y DU yn dewis bwrw eu pleidlais yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio leol. Mae pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio’n syml iawn a bydd aelod o staff ar gael bob amser i helpu os nad ydych yn siwr beth i’w wneud.

Os ydych ar y gofrestr etholiadol, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad yn dweud wrthych ble a phryd i bleidleisio. Mae’r orsaf bleidleisio’n ysgol neu’n neuadd leol ger eich cartref fel arfer. Mae’r pum cam canlynol yn esbonio sut i bleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.

Ar ddiwrnod yr etholiad, ewch i'ch gorsaf bleidleisio leol.

Os ydych yn anabl ac angen cymorth i gyrraedd yr orsaf bleidleisio, cysylltwch â’ch swyddfa gofrestru etholiadol leol (neu swyddfa etholiadol ranbarthol yng Ngogledd Iwerddon) i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael. Gallwch ofyn am gyfaill i fod gyda chi pan bleidleisiwch hefyd.

Dywedwch eich enw a’ch cyfeiriad wrth y staff y tu mewn i’r orsaf bleidleisio er mwyn iddynt wirio eich bod ar y gofrestr etholiadol. Gallwch ddangos eich cerdyn pleidleisio iddynt, ond nid oes ei angen arnoch er mwyn pleidleisio.

Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi ddangos ffurf dilys ar lun ID. Gallai hyn fod yn basport y DU neu’r UE, trwydded yrru â llun, Translink Senior SmartPass neu gerdyn adnabod etholiadol.

Bydd staff yr orsaf bleidleisio’n rhoi papur pleidleisio i chi sy’n rhestru’r pleidiau a’r ymgeiswyr y gallwch bleidleisio drostynt. Bydd yn cael ei stampio â marc swyddogol. Mae’n bosibl y cewch fwy nag un papur pleidleisio os oes mwy nag un etholiad ar yr un diwrnod.

Os oes gennych nam ar eich golwg, gallwch ofyn am ddyfais bleidleisio arbennig sy’n caniatáu i chi bleidleisio ar eich pen eich hun yn gyfrinachol.

Ewch â’ch papur pleidleisio i mewn i fwth i sicrhau na all unrhyw un weld eich pleidlais. Rhowch groes (X) yn y blwch i’r dde o enw’r blaid neu’r ymgeisydd y dymunwch bleidleisio drostynt. Yng Ngogledd Iwerddon, gofynnir i chi roi ‘1', ‘2', ‘3' ac yn y blaen yn yr etholiadau llywodraeth leol.

Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth arall ar y papur neu mae’n bosibl na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.

I gloi, ar ôl i chi farcio eich pleidlais, plygwch y papur pleidleisio yn ei hanner a rhowch ef yn y blwch pleidleisio. Peidiwch â gadael i unrhyw un weld eich pleidlais. Os na wyddoch beth i’w wneud, gofynnwch i’r staff yn yr orsaf bleidleisio i’ch helpu.

Mwy o gwestiynau ynghylch pleidleisio drwy’r post? Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod