Meiri sydd wedi’u hethol yn uniongyrchol yn Lloegr (gan gynnwys Maer Llundain)
Y system
bleidleisio
Pleidlais atodol
I bwy rwyf yn
pleidleisio?
Mae gan holl gynghorau lleol Lloegr Faer. Caiff y rhan fwyaf eu
dewis gan y cyngor, fodd bynnag, yn rhai ardaloedd, caiff y maer ei
ethol yn uniongyrchol gan y pleidleiswyr ar yr un pryd ag y maen
nhw’n pleidleisio ar gyfer eu cynghorwyr.
Mae Maer yn Llundain hefyd sydd ag
ystod fwy eang o bwerau na Meiri’r cynghorau lleol.
Sut i bleidleisio
Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cwblhau’r papur
pleidleisio’n ofalus bob amser, hyd yn oed os ydych chi wedi
pleidleisio o’r blaen.
Mae’r papur pleidleisio’n rhestru enw
pob ymgeisydd, ynghyd ag enw neu ddisgrifiad eu plaid, logo’r blaid
a’u cyfeiriad.
Mae dwy golofn wrth ymyl pob enw.
Dylech chi roi X (croes) yn y golofn chwith wrth ymyl eich ffefryn
cyntaf i fod yn Faer, a X (croes) yn y golofn dde wrth ymyl eich
ail ffefryn i fod yn Faer.
Yn 2007, ymgymerodd rhai ardaloedd
gynlluniau peilot ble y disodlwyd y ddwy golofn gyda cholofn
unigol, a gofynnwyd i bleidleiswyr roi 1 wrth ymyl eu dewis cyntaf
i fod yn Faer a 2 wrth ymyl eu hail ddewis i fod yn Faer. Os
gwelwch yn dda, dewiswch y papur pleidleisio’n ofalus i sicrhau
eich bod chi wedi’i chwblhau’n gywir.
Os ydych chi’n gwneud camgymeriad,
gallwch chi ofyn i'r staff pleidleisio i roi papur pleidleisio
arall i chi.
Efallai y byddwch chi hefyd yn
pleidleisio mewn etholiadau eraill ar yr un diwrnod
Pwy sy’n cael eu
hethol?
Caiff y ffefrynnau cyntaf eu cyfrif, ac os yw ymgeisydd wedi
derbyn mwy na 50% o’r pleidleisiau a fwriwyd, cant eu hethol.
Os nad oes gan unrhyw ymgeisydd fwy na
50% o’r bleidlais, ceir gwared â’r holl ymgeiswyr, heblaw am y rhai
hynny sydd yn y safle cyntaf a’r ail. Caiff y pleidleisiau sy’n
dangos y ffefryn cyntaf ar gyfer un o’r ymgeiswyr a gafwyd gwared â
nhw, eu gwirio ar gyfer eu hail ffefryn. Yna, bydd y ddau ymgeisydd
sydd ar ôl yn cael eu hychwanegu at bleidleisiau eu ffefryn cyntaf,
a’r ymgeisydd sydd â’r rhan fwyaf o bleidleisiau sy’n ennill.