Etholiadau Senedd Ewrop yn Lloegr, Yr Alban a Chymru

Y system bleidleisio

Cynrychiolaeth gyfrannol - rhestr gaeëdig

I bwy rwyf yn pleidleisio?

Rhwng tri a deg o Aelodau o Senedd Ewrop (ASEau) i gynrychioli eich rhanbarth.

Mae’r DU wedi cael ei rannu’n rhanbarthau, un ar gyfer Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru, a naw ar gyfer Lloegr. Dosrennir sawl ASEau i bob rhanbarth yn ôl poblogaeth.

Sut i bleidleisio

Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cwblhau’r papur pleidleisio’n ofalus bob amser, hyd yn oed os ydych chi wedi pleidleisio o’r blaen.

Mae’r papur pleidleisio’n rhestru pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol. Mae rhestr o ymgeiswyr o dan enw pob plaid sy’n dymuno cynrychioli’r blaid honno.

Yn syml, rhowch X (croes) wrth ymyl y blaid neu’r ymgeisydd annibynnol yr hoffech chi bleidleisio drosto/drosti.

Os ydych chi’n gwneud camgymeriad, gallwch chi ofyn i'r staff pleidleisio i roi papur pleidleisio arall i chi.

Efallai y byddwch chi hefyd yn pleidleisio mewn etholiadau eraill ar yr un diwrnod

Pwy sy’n cael eu hethol?

Mewn rhanbarth penodol, caiff y seddi a ddosrannir eu dyfarnu drwy ddefnyddio system cwota. Y cwota yw cyfanswm nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd gan blaid neu ymgeisydd annibynnol, wedi eu rhannu gyda nifer y seddi a enillwyd yn barod yn y rhanbarth hwnnw + 1.

Felly, ar gyfer plaid heb seddi, caiff nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd eu rhannu gydag un, ac mae felly’n aros yr un fath. Os oes gan y blaid un sedd yn barod, caiff nifer y pleidleisiau eu rhannu gyda dau, os oes ganddi ddwy sedd, cant eu rhannu gyda thri, ac yn y blaen.

Mae hyn yn golygu'r mwyaf o seddi yr ydych chi wedi ennill yn barod, y mwyaf anodd ydyw i gael seddi ychwanegol, felly mae dyraniad y seddi ar y cyfan yn fwy cyfraneddol i nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd.

Mae’r sedd gyntaf y mae plaid yn ennill yn cael ei rhoi i’r person cyntaf ar y rhestr, mae’r ail sedd yn mynd i’r ail berson, ac yn y blaen, nes bod y blaid unai heb ennill mwy o seddi neu wedi rhedeg allan o enwau ar y rhestr. Trinnir ymgeisydd annibynnol fel pe bai ef neu hi yn blaid gyda dim ond un enw ar y rhestr.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod