Etholiadau llywodraeth leol yn Yr Alban

Y system bleidleisio

Pleidlais drosglwyddadwy sengl

I bwy rwyf yn pleidleisio

Tair neu bedair o gynghorwyr i gynrychioli eich ward ar y cyngor lleol.

Sut i bleidleisio?

Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cwblhau’r papur pleidleisio’n ofalus bob amser, hyd yn oed os ydych chi wedi pleidleisio o’r blaen.

Mae’r papur pleidleisio’n rhestru enw pob ymgeisydd, ynghyd ag enw neu ddisgrifiad eu plaid, logo’r blaid a’u cyfeiriad.

Rhestrwch yr ymgeiswyr yn ôl eich ffefrynnau. Rhowch 1 wrth ymyl yr ymgeisydd y byddech chi’n ddewis gyntaf, 2 wrth eich ail ddewis, a 3 wrth eich trydydd dewis, ac yn y blaen. Gallwch chi restru cyn lleied neu cyn gymaint o ymgeiswyr ag yr ydych chi’n dymuno.

Os ydych chi’n gwneud camgymeriad, gallwch chi ofyn i'r staff pleidleisio i roi papur pleidleisio arall i chi.

Efallai y byddwch chi hefyd yn pleidleisio mewn etholiadau eraill ar yr un diwrnod

Pwy sy’n cael eu hethol?

Dylai ymgeisydd gyrraedd nifer penodol o bleidleisiau sy’n cael ei adnabod fel y cwota.

Caiff y pleidleisiau eu cyfrif mewn camau. Yn y cam cyntaf, dim ond y ffefrynnau cyntaf sy’n cael eu cyfrif. Nid yw’r ymgeisydd etholedig angen unrhyw bleidleisiau a dderbyniwyd sy’n fwy na’r cwota, felly maen nhw’n cael eu trosglwyddo i’r ail ffefryn. Os nad oes digon o ymgeiswyr wedi cyrraedd y cwota wedyn, ceir gwared â’r ymgeisydd sydd â’r nifer isaf o bleidleisiau a chaiff eu holl bleidleisiau eu trosglwyddo i’r ffefryn nesaf ar y papurau pleidleisio.

Caiff y broses hon ei hailadrodd nes bod tri neu bedwar o ymgeiswyr wedi cael eu hethol.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod