Etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru
Y system
bleidleisio
Y gyntaf i’r felin
I bwy rwyf yn
pleidleisio
Cynghorydd i gynrychioli eich ward ar y cyngor lleol.
Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer
cwblhau’r papur pleidleisio’n ofalus bob amser, hyd yn oed os ydych
chi wedi pleidleisio o’r blaen.
Mae’r papur pleidleisio’n rhestru enw
pob ymgeisydd, ynghyd ag enw neu ddisgrifiad eu plaid, logo’r blaid
a’u cyfeiriad.
Yn syml, rhowch X (croes) wrth ymyl yr
ymgeisydd yr hoffech chi bleidleisio drosto/drosti.
Os ydych chi’n gwneud camgymeriad,
gallwch chi ofyn i'r staff pleidleisio i roi papur pleidleisio
arall i chi.
Efallai y byddwch chi hefyd yn
pleidleisio mewn etholiadau eraill ar yr un diwrnod.
Pwy sy’n cael eu
hethol?
Yr ymgeisydd sydd gyda’r rhan fwyaf o bleidleisiau sy’n cael eu
hethol; nid oes angen iddyn nhw gael mwy na hanner o’r pleidleisiau
a fwriwyd. Os oes pleidleisiau cyfartal, dewisir ymgeisydd drwy
dynnu ar hap (h.y. dull dewis ar hap fel taflu ceiniog neu dynnu
enw allan o het).