Etholiadau Cynulliad Llundain Fwyaf
Y system
bleidleisio
Y System Aelod Ychwanegol (cyfuniad
o’r cyntaf i’r felin a chynrychiolaeth gyfrannol - rhestr
gaeëdig).
I bwy rwyf yn
pleidleisio?
Mae gennych chi ddwy bleidlais: un ar
gyfer aelod Cynulliad Llundain Fwyaf etholaeth Cynulliad Llundain
Fwyaf chi, ac un ar gyfer 10 o aelodau Cynulliad Llundain Fwyaf ar
draws Llundain.
Sut i bleidleisio
Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer
cwblhau’r papur pleidleisio’n ofalus bob amser, hyd yn oed os ydych
chi wedi pleidleisio o’r blaen.
Byddwch chi’n cael dau bapur
pleidleisio.
Ar gyfer aelod etholaethol Cynulliad
Llundain Fwyaf y mae’r cyntaf. Mae’r papur pleidleisio’n rhestru
enw pob ymgeisydd, ynghyd ag enw neu ddisgrifiad eu plaid, logo’r
blaid a’u cyfeiriad.
Yn syml, rhowch X (croes) wrth ymyl yr
ymgeisydd yr hoffech chi bleidleisio drosto/drosti.
Pleidlais ar gyfer plaid neu ymgeisydd
annibynnol sy’n ceisio ennill 10 sedd Cynulliad Llundain Fwyaf ar
draws Llundain yw’r ail bapur pleidleisio. Mae’r papur
pleidleisio’n rhestru pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol.
Mae rhestr o ymgeiswyr sy’n dymuno cynrychioli’r blaid honno o dan
enw bob plaid.
Yn syml, rhowch X (croes) wrth ymyl y
blaid neu’r ymgeisydd annibynnol yr hoffech chi bleidleisio
drosto/drosti.
Ar yr un pryd, bydd gofyn i chi
bleidleisio ar drydydd bapur pleidleisio ar gyfer Maer Llundain
(am fwy o wybodaeth, gwelwch yr adran Meiri
sydd wedi’u hethol yn uniongyrchol yn Lloegr).
Os ydych chi’n gwneud camgymeriad,
gallwch chi ofyn i'r staff pleidleisio i roi papur pleidleisio
arall i chi.
Efallai y byddwch chi hefyd yn
pleidleisio mewn etholiadau eraill ar yr un diwrnod
Pwy sy’n cael eu
hethol?
Mae 14 o etholaethau, ac mae pob un
cael eu cynrychioli gan un Aelod Cynulliad Llundain Fwyaf. Yr
ymgeisydd sydd gyda’r mwyaf o bleidleisiau sy’n cael eu hethol ym
mhob etholaeth; nid oes rhaid iddyn nhw gael mwy na hanner o’r
pleidleisiau a fwriwyd. Os oes pleidleisiau cyfartal, dewisir
ymgeisydd drwy dynnu ar hap (h.y. dull
dewis ar hap fel taflu ceiniog neu dynnu enw allan o het).
Mae hefyd 10 o seddi ar draws Llundain
ar gael; dyfarnir y seddi yma gan ddefnyddio system cwota. Y cwota
yw cyfanswm nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd gan blaid neu
ymgeisydd annibynnol, wedi eu rhannu gan nifer y seddi a enillwyd
yn barod, + 1.
Felly, ar gyfer plaid heb seddi, caiff
nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd eu rhannu gydag un, ac mae
felly’n aros yr un fath. Os oes gan y blaid un sedd yn barod, caiff
nifer y pleidleisiau eu rhannu gyda dau, os oes ganddi ddwy sedd,
cant eu rhannu gyda thri, ac yn y blaen.
Mae hyn yn golygu'r mwyaf o seddi yr
ydych chi wedi ennill yn barod, y mwyaf anodd ydyw i gael seddi
ychwanegol, felly mae dyraniad y seddi ar y cyfan yn fwy
cyfraneddol i nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd. Mae nifer y seddi
sydd gan bob plaid yn cynnwys unrhyw seddi etholaethol a enillwyd
ac unrhyw seddi ar draws Llundain a ddyfarnwyd yn barod.
Mae’r sedd gyntaf y mae plaid yn
ennill yn cael ei rhoi i’r person cyntaf ar y rhestr, mae’r ail
sedd yn mynd i’r ail berson, ac yn y blaen, nes bod y blaid unai
heb ennill mwy o seddi neu wedi rhedeg allan o enwau ar y rhestr.
Trinnir ymgeisydd annibynnol fel pe bai ef neu hi yn blaid gyda dim
ond un enw ar y rhestr.