Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
Y system
bleidleisio
Pleidlais drosglwyddadwy sengl
I bwy rwyf yn
pleidleisio?
Chwe Aelod Cynulliad Deddfwriaethol i
gynrychioli eich etholaeth yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.
Sut i
bleidleisio?
Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer
cwblhau’r papur pleidleisio’n ofalus bob amser, hyd yn oed os ydych
chi wedi pleidleisio o’r blaen.
Mae’r papur pleidleisio’n rhestru enw
pob ymgeisydd, ynghyd ag enw neu ddisgrifiad eu plaid, logo’r blaid
a’u cyfeiriad.
Rhestrwch yr ymgeiswyr yn ôl eich
ffefrynnau. Rhowch 1 wrth ymyl yr ymgeisydd y byddech chi’n ddewis
gyntaf, 2 wrth eich ail ddewis, a 3 wrth eich trydydd dewis, ac yn
y blaen. Gallwch chi restru cyn lleied neu cyn gymaint o ymgeiswyr
ag yr ydych chi’n dymuno.
Os ydych chi’n gwneud camgymeriad,
gallwch chi ofyn i'r staff pleidleisio i roi papur pleidleisio
arall i chi.
Efallai y byddwch chi hefyd yn
pleidleisio mewn etholiadau eraill ar yr un diwrnod
Pwy sy’n cael eu
hethol?
Dylai ymgeisydd gyrraedd nifer penodol
o bleidleisiau sy’n cael ei adnabod fel y cwota.
Caiff y pleidleisiau eu cyfrif mewn
camau. Yn y cam cyntaf, dim ond y ffefrynnau cyntaf sy’n cael eu
cyfrif. Mae unrhyw un sy’n cyrraedd y cwota’n cael eu hethol. Nid
yw’r ymgeisydd etholedig angen unrhyw bleidleisiau a dderbyniwyd
sy’n fwy na’r cwota, felly maen nhw’n cael eu trosglwyddo i’r ail
ffefryn. Os nad oes digon o ymgeiswyr wedi cyrraedd y cwota wedyn,
ceir gwared â’r ymgeisydd sydd â’r nifer isaf o bleidleisiau a
chaiff eu holl bleidleisiau eu trosglwyddo i’r ffefryn nesaf ar y
papurau pleidleisio.
Caiff y broses hon ei hailadrodd nes
bod chwech o ymgeiswyr wedi cael eu hethol.