Etholiadau Seneddol Yr Alban

Y system bleidleisio

Y System Aelod Ychwanegol (cyfuniad o’r cyntaf i’r felin a rhestr gaeëdig - cynrychiolaeth gyfrannol).

I bwy rwyf yn pleidleisio?

Mae gennych chi ddwy bleidlais: un ar gyfer Aelod etholaethol Senedd Yr Alban, ac un ar gyfer saith Aelod rhanbarthol Senedd yr Alban dros eich rhanbarth chi o’r Alban.

Sut i bleidleisio?

Darllenwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cwblhau’r papur pleidleisio’n ofalus bob amser, hyd yn oed os ydych chi wedi pleidleisio o’r blaen.

Mae gennych chi ddwy bleidlais, mae gan y papur pleidleisio ddwy golofn, un ar gyfer eich pleidlais etholaethol ac un ar gyfer eich pleidlais ranbarthol. Mae rhaid i chi roi X (croes) ym mhob un o’r colofnau.

Pleidlais yw’r golofn chwith ar gyfer plaid neu ymgeisydd annibynnol sy’n cystadlu ar gyfer y saith sedd ranbarthol ar gyfer eich rhanbarth chi o’r Alban. Mae’r papur pleidleisio’n rhestru pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol.

Yn syml, rhowch X (croes) wrth ymyl yr ymgeisydd yr hoffech chi bleidleisio drosto/drosti.

Pleidlais yw’r golofn dde ar gyfer Aelod etholaethol Senedd Yr Alban. Mae’r papur pleidleisio’n rhestru enw pob ymgeisydd, ynghŷd ag enw eu plaid, a logo’r blaid.

Yn syml, rhowch X (croes) wrth ymyl yr ymgeisydd yr hoffech chi bleidleisio drosto/drosti.

Ar yr un pryd, efallai y gofynnir i chi bleidleisio ar bapur pleidleisio arall ar gyfer eich cynghorwyr lleol (am fwy o wybodaeth, gwelwch yr adran Etholiadau llywodraeth leol yn Yr Alban)

Os ydych chi’n gwneud camgymeriad, gallwch chi ofyn i'r staff pleidleisio i roi papur pleidleisio arall i chi.

Efallai y byddwch chi hefyd yn pleidleisio mewn etholiadau eraill ar yr un diwrnod.

Pwy sy’n cael eu hethol?

Mae 53 o etholaethau, ac mae pob un yn cael eu cynrychioli gan un Aelod o Senedd Yr Alban. Yr ymgeisydd sydd yn derbyn y mwyaf o bleidleisiau sy’n cael eu hethol ym mhob etholaeth; nid oes angen iddyn nhw gael mwy na hanner o’r pleidleisiau a fwriwyd. Os oes pleidleisiau cyfartal, dewisir

ymgeisydd drwy dynnu ar hap (h.y. dull dewis ar hap fel taflu ceiniog neu dynnu enw allan o het).

Mae hefyd 8 rhanbarth, ac mae pob un yn ethol 7 Aelod rhanbarthol o Senedd Yr Alban. O ganlyniad, mae 56 o seddi rhanbarthol; dyfarnir y seddi hyn drwy ddefnyddio system cwota. Y cwota yw cyfanswm nifer y seddi a dderbynnir gan blaid neu ymgeisydd annibynnol, wedi eu rhannu gyda nifer y seddi (etholaethol neu ranbarthol) sydd eisoes wedi eu hennill yn yr ardal honno + 1.

Felly, ar gyfer plaid heb seddi, caiff nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd eu rhannu gydag un, ac mae felly’n aros yr un fath. Os oes gan y blaid un sedd yn barod, caiff nifer y pleidleisiau eu rhannu gyda dau, os oes ganddi ddwy sedd, cant eu rhannu gyda thri, ac yn y blaen.

Mae hyn yn golygu'r mwyaf o seddi yr ydych chi wedi ennill yn barod, y mwyaf anodd ydyw i gael seddi ychwanegol, felly mae dyraniad y seddi ar y cyfan yn fwy cyfraneddol i nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd. Mae nifer y seddi sydd gan bob plaid yn cynnwys unrhyw seddi etholaethol a enillwyd yn y rhanbarth hwnnw ac unrhyw seddi rhanbarthol a ddyfarnwyd yn barod.

Mae’r sedd gyntaf y mae plaid yn ennill yn cael ei roi i’r person cyntaf ar y rhestr, mae’r ail sedd yn mynd i’r ail berson, ac yn y blaen, nes bod y blaid unai heb ennill mwy o seddi neu wedi rhedeg allan o enwau ar y rhestr. Trinnir ymgeisydd annibynnol fel pe bai ef neu hi yn blaid gyda dim ond un enw ar y rhestr.

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod