Pobl sy’n symud tŷ
Peidiwch ag anghofio eich dodrefn, eich hanifeilaid…nag eich
hawl i bleidleiso!
Oes, os ydych chi newydd symud tŷ, bydd angen i chi gofrestru i
bleidleiso eto, ac mae’n ofnadwy o bwysig eich bod chi’n gwneud
hyn, neu ni fyddwch chi’n gallu pleidleisio! Felly, tra
rydych chi’n dadbacio eich oergell a’n diweddaru eich trwydded
deledu, cymrwch dipyn o funudau i wneud yn siŵr eich bod chi wedi
cofrestru i bleidleiso.
Caiff y gofrestr etholiadol ei chynnal gan swyddfeydd cofrestru
etholiadol lleol, ac maen nhw’n defnyddio’r gofrestr i anfon
papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau. Felly, rydych chi angen
gwneud yn siŵr eich bod chi wedi’u diweddaru nhw pan rydych chi’n
symud, hyd yn oed os ydych chi o fewn yr un ardal awdurdod lleol.
Gallwch chi lenwi’r ffurflen gofrestru ar y safle yma, wedyn yr
unig beth sydd raid i chi wneud yw ei hargraffu hi, ei llofnodi hi
a’i hanfon hi’n ôl i’r swyddfa gofrestru etholiadol lleol ar gyfer
eich ardal. Gallwch chi gael gafael ar eu cyfeiriad a’u manylion
cyswllt eraill drwy roi eich côd post ar y safle yma.
Cofrestrwch i bleidleiso cyn gynted â phosib! Efallai eich
bod chi’n meddwl nad oes brys, ond gallai etholiadau gael eu galw
unrhyw bryd ac ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi
wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!
Rhwng canol mis Awst a mis Tachwedd pob blwyddyn, mae ffurflenni
cofrestru canfasio blynyddol yn cael eu hanfon i bob tŷ yn y
D.U. Os ydych chi newydd symud tŷ, byddwch chi o bosib yn darganfod
mai manylion y bobl flaenorol oedd yn byw ynddo sydd ar y
ffurflen. Mae’n bwysig eich bod chi’n diweddaru’r ffurflen
gyda’ch manylion a’i hanfon i’n ôl i’ch swyddfa cofrestru
etholiadol lleol cyn gynted â phosib.
Os ydych chi’n symud tŷ rhwng mis Rhagfyr a mis Mai, efallai ei
bod hi hyd yn oed yn fwy pwysig i gofrestru oherwydd mae posibiliad
eich bod chi wedi methu’r canfasio blynyddol - a chofiwch fod y
rhan fwyaf o etholiadau’n cael eu cynnal ym mis Mai. Os ydych chi
wedi methu’r canfasio blynyddol, peidiwch â phoeni - gallwch chi
gofrestru ar unrhyw adeg o’r flwyddyn drwy lenwi ffurflen gofrestru
ar y safle hwn, ai hanfon hi’n ôl i’ch swyddfa cofrestru etholiadol
lleol. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol, y dyddiad cau ar gyfer
cofrestru cyn etholiad yw 11 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr
etholiad, felly peidiwch â’i adael yn rhy hwyr neu ni fyddwch chi’n
gallu pleidleiso!
Ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am gofrestru neu bleidleisio?
Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.