Homemover mailing

Diolch yn fawr am ymweld â’n gwefan i gael mwy o wybodaeth ynghylch pam y gwnaethoch chi dderbyn ein pecyn cofrestru i bleidleiswyr.

 

Pam ydych chi’n anfon y rhestr bostio hon allan?

Pan rydych yn newid cyfeiriad, mae angen i chi gofrestru unwaith eto yn eich cyfeiriad newydd.  Hyd yn oed os ydych chi’n talu treth y cyngor yn eich cyfeiriad newydd, nid ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio’n awtomatig.  Oni bai eich bod chi’n hysbysu eich swyddfa cofrestru etholiadol leol eich bod chi wedi symud, gallech chi golli eich cyfle i bleidleisio yn etholiadau’r dyfodol.

Gyda chyn gymaint o bethau i feddwl amdanynt pan rydych chi’n symud tŷ, maen hawdd anghofio ail-gofrestru yn eich cyfeiriad newydd.  Pob blwyddyn, rydym yn postio pecynnau cofrestru i bobl rydym yn credu sydd wedi symud tŷ – dim ond i’w hatgoffa nhw i ail-gofrestru.

 

O le cawsoch chi fy manylion?
Rydym yn cael enwau a chyfeiriadau pobl o sefydliad o’r enw Experian Ltd.  Mae rhestr bostio Experian yn cael ei chreu o nifer o ffynonellau gwahanol er enghraifft, gwybodaeth sy’n eiddo i’r cyhoedd, arolygon defnyddwyr ac o unrhyw ffynonellau trydydd parti eraill sy'n cydymffurfio.

Mae Experian yn casglu a’n rheoli data defnyddwyr y DU yn gyfan gwbl yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a chanllawiau arfer da eraill.  Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth am ffynhonnell eich data, cysylltwch ag Experian fydd yn hapus i’ch helpu chi:

 

Directors' Office

Regulatory and Consumer Affairs

Experian Ltd

PO Box 8000

Nottingham

NG80 7WF

 

Ffôn: 0870 3661660

 

Nid wyf wedi symud tŷ

Hyd yn oed os nad ydych chi wedi symud yn ddiweddar, os ydych chi wedi derbyn hwn, efallai nad ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad rydych yn byw ynddo ar hyn o bryd.  I sicrhau eich bod chi wedi cofrestru, llenwch a dychwelwch y ffurflen.

 

Mae gennyf gwestiwn sydd ddim yn cael ei drafod ar y wefan hon

Os oes gennych gwestiwn nad ydym wedi ateb yma, anfonwch e-bost atom ni.

 

Eich ardal leol

Gwybodaeth am ble rydych chi’n byw

Dim yn siŵr o’ch côd post? Chwilio am awdurdod lleol

* By selecting 'Go' you accept our terms and conditions

Gwybodaeth etholiadol

Mae etholiadau i ddod

Yr etholiadau nesaf sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal yw etholiadau’r cyngor sir sy’n cael eu cynnal ar draws Lloegr ym mis Mai 2009 (yr union ddiwrnod i’w gadarnhau).

Ar ôl hynny, bydd etholiadau Senedd Ewrop ar gyfer ASEau yn cael eu cynnal ar 4 Mehefin 2009. Er nad oes mwy o etholiadau wedi cael eu cynllunio ar gyfer 2008, gallai etholiadau gael eu galw ar fyr rybudd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru fel eich bod chi’n gallu lleisio eich barn!

Eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol

I weld manylion am eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol, rhowch eich côd post uchod